Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 712 (Cy.73)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda (Sefydlu) 2008

Wedi'u gwneud

11 Mawrth 2008

Yn dod i rym

12 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) a (2) a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda (Sefydlu) 2008 a daw i rym ar 12 Mawrth 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • y mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 12 Mawrth 2008;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “gwasanaethau iechyd cymunedol” (“community health services”) yw unrhyw wasanaeth y dichon Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;

  • ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Sefydlu'r ymddiriedolaeth

2.  Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda neu the Hywel Dda National Health Service Trust.

Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth

3.—(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.

(2) Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o

(a) Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Heol Caradoc, Aberystwyth, SY 23 1ER;

(b) Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwynmawr, Dafen, Llanelli, SA14 8QF;

(c) Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, SA31 2AF;

(ch) Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PZ;

ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig.

Cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth

4.—(1) Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwyr gweithredol.

(2) Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, y mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Abertawe.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth

5.—(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Ebrill 2008.

(2) Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol

6.  Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol y mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol —

(a) ymrwymo i gontractau'r GIG

(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c) gwneud y fath bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth yn erthygl 3. Mae'n pennu dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu yr ymddiriedolaeth yn erthygl 5.

(1)

2006 p.42 Back [1]

(2)

1993 p.38, Trosglwyddwyd swyddogaethau unrhyw Weinidog y Goron i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]