Offerynnau Statudol

2008 Rhif 524 (Cy.50)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008

Gwnaed

26 Chwefror 2008

Yn dod i rym

25 Mawrth 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

RHAN 1 Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 25 Mawrth 2008.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;

ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sy'n llai na 72 awr oed nad yw wedi cael bwyd;

ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, tyrcwn, hwyaid a gwyddau.

ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, ac sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;

ystyr “haid ddodwy” (“laying flock”) yw haid o ddofednod a gedwir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir i gynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion —

(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(3);

(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn ieir dodwy o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(4); ac

(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod(5).

(1)

1981 p.22. Back [1]

(2)

Gweler adran 86(1) am ddiffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

OJ Rhif L170, 1.7.2005, t.12 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t. 4). Back [3]

(4)

OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t. 4. Back [4]

(5)

OJ Rhif L 212, 2.8.2006, t.3. Back [5]