Offerynnau Statudol

2008 Rhif 503 (Cy.44)

LLYWODRAETH LEOL CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

Gwnaed

23 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Chwefror 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau sy'n gynghorau sir neu'n gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn unig ac mae'n effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.

Dangosyddion Perfformiad

2.  Pennir y dangosyddion perfformiad o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod.

Y TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y mesurir perfformiad y swyddogaethau hynny drwyddynt
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Rheoli gwastraff
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Trafnidiaeth/Priffyrdd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Diogelu'r Cyhoedd
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Effeithlonrwydd Ynni
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 8

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru ) 2005(3).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2008

Erthygl 2

ATODLEN 1 DANGOSYDDION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Rhif y Dangosydd/ Indicator Number Prif ddangosydd Headline indicator
NS1 Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. The rate of delayed transfers of care for social care reasons per 1,000 population aged 75 or over.
NS2 Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd): The rate of older people (aged 65 or over):

(a) y rhoddir cymorth iddynt yn y gymuned fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth; a

(a) supported in the community per 1,000 population aged 65 or over at 31 March; and

(b) y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth.

(b) whom the authority supports in care homes per 1,000 population aged 65 or over at 31 March.

NS3

(a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda Chynllun Gofal ar waith; a

(a) the percentage of first placements of looked after children during the year that began with a Care Plan in place; and

(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, y ganran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.

(b) for those children looked after whose second review (due at 4 months) was due in the year, the percentage with a plan for permanence at the due date.

NS4 Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. The percentage of children looked after at 31 March who have experienced one or more change of school, during a period or periods of being looked after, which were not due to transitional arrangements, in the 12 months to 31 March.
(1)

1999 p.27. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32). Back [2]

(3)

O.S. 2005/665 (Cy.55). Back [3]