Offerynnau Statudol

2008 Rhif 450 (Cy.40)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

Gwnaed

19 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Chwefror 2008

Yn dod i rym

18 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Mawrth 2008.

(2) Dim ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys(3) ac mae'n cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008—2009 a'r blynyddoedd ariannol sy'n dilyn.

Dangosyddion perfformiad

2.  Mae'r dangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt i fesur perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau wedi'u pennu drwy hyn yn—

(a) Atodlen 1 (Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol); a

(b) Atodlen 2 (Ymateb Effeithiol).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Chwefror 2008

Erthygl 2

ATODLEN 1 Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol

Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001

i) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

ii) Cyfanswm nifer y prif danau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

iii) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd drwy ddamwain mewn anheddau fesul 10,000 o anheddau;

iv) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 10,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/002

Nifer:

i

y marwolaethau a achoswyd gan danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

ii

y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;

iii

y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth;

iv

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

v

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;

vi

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/003 Cyfanswm nifer y tanau mewn mangreoedd annomestig fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.
FRS/RRC/S/004

i) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân (“YAGT”)) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth pum-munud.

ii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud.

iii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd y tu allan i'r safon gwasanaeth deng-munud.

iv) Cyfanswm nifer y tanau mewn cartrefi lle'r oedd asesiad risg diogelwch tân cartref a/neu gweithgaredd cysylltiedig i leihau risg wedi'u cynnal o fewn dwy flynedd i'r tân.

Erthygl 2

ATODLEN 2 Ymateb Effeithiol

Cyfeirnod Dangosydd
FRS/EFR/S/001 Y ganran o danau mewn anheddau, sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud fel y nodwyd gan bob Awdurdod Tân ac Achub, ac yr aed atynt o fewn deng munud.
FRS/EFR/S/002 Y ganran o danau mewn anheddau, y mae model Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân wedi nodi bod eu cyfradd anafiadau yn uwch na chwech, ac yr aed atynt o fewn pum munud.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod gofynion ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau eraill i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer, gan roi sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae adran 4(1) o'r Ddeddf honno yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu drwy Orchymyn ddangosyddion perfformiad gwerth gorau sy'n gymwys i awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau eraill.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai'r dangosyddion perfformiad a welir yn Atodlenni 1 a 2 o'r Gorchymyn hwn fydd y dangosyddion a ddefnyddir i fesur perfformiad awdurdod tân ac achub.

Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi'i lunio mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn a gellir cael copi gan y Gangen Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).

(1)

1999 p.27. Back [1]

(2)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

2004 p.21. Back [3]