Rheoliad 4
1. Yn rheoliad9(1) a 9(2), yn lle “rheoliad 10(10)” rhodder rheoliad 10(12)”.
2. Yn nhestun Saesneg rheoliad 10(7)(b), ar ôl y gair “he”, mewnosoder y geiriau “or she”.
3. Yn rheoliad 10(18), yn lle “baragraff (11)” rhodder “baragraff (17)”.
4. Yn nhestun Saesneg rheoliad 17(1)(c), ar ôl y geiriau “and other”, mewnosoder y gair “costs”.
5. Yn nhestun Saesneg is-baragraff (1)(a) o baragraff 6 Rhan 2 o Atodlen 2 yn lle'r Rhif au “(vii)” a “(viii)” rhodder y llythrennau “(b)” ac “(c)” yn y drefn honno.
6. Yn is-baragraff (3) o baragraff 2 Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle'r geiriau “Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd mae swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) i'w ddidynnu—”, rhodder y geiriau “Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm £1,075 i'w ddidynnu—”.
7. Ym mharagraff 2 Rhan 2 o Atodlen 3, hepgorer is-baragraff (4).
Rheoliad 10
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”), oni nodir yn wahanol—
mewn perthynas â gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw—
ei briod neu ei bartner sifil;
ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd yw—
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
mewn perthynas â gwladolyn y GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed;
sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;
mewn perthynas â gwladolyn y GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—
ei briod neu ei bartner sifil;
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
mewn perthynas â gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a gaiff ei ffurfio gan y Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(11);
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r rhan arall, ar Rydd Symudiad Personau, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(12) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(13) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(14);
ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
mae i “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (3);
ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw un o wladolion yr AEE sy'n weithiwr neu, yn achos un o wladolion yr AEE sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn weithiwr, ac eithrio yn un o weithwyr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—
yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a
yn gyfreithiol gyflogedig, neu a oedd wedi bod yn gyfreithiol gyflogedig, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel un o wladolion y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;
ystyr “Gwladolyn y GE” (“EC national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw un o wladolion un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio'n berson cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
mae i “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (4);
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”)—
mewn perthynas â gwladolyn yr AEE, yw person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
mewn perthynas â dinesydd Swisaidd, yw person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd neu, yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
mae i “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (5);
mae i “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2);
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(15).
(2) ystyr “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE—
(a) sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(3) ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw un o wladolion yr AEE—
(a) sy'n weithiwr yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(5) ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(7) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—
(a) bod y person;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu briod neu bartner sifil ei blentyn,
yn cael ei gyflogi neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.
(8) At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o Wladwriaethau'r AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio; a
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio.