RHAN 1 CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2008.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;

ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—

(a)

sydd—

(i)

yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb; a

(ii)

sy'n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a

(b)

y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o'r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd y myfyriwr yn gorfod ei dynnu mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd yn ei ddioddef;

ystyr “Cymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;

ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 1 Chwefror 2008;

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(3), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;

ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(4) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(5);

ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20 neu 22;

ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 4 o Ran 4;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

(a)

sydd wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu dan awdurdod yr Ysgrifenydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymwys i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i neu aros yn y Deyrnas Unedig;

(b)

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny;

(c)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae'r cyfnod hwnnw wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(6) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros) yn yr arfaeth; ac

  • (ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007(7);

ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw—

(a)

Canolfan Bologna;

(b)

Coleg Ewrop;

(c)

yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007

4.  Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio yn unol ag Atodlen 1.

Dirymu a darpariaethau arbed

5.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007 wedi'u dirymu.

6.  Mae rheoliad 6 a 7 o Reoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys.

7.  Bydd Rheoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008 ac mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006 cyn belled â bod Rheoliadau 2006 yn ymwneud â blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn y cyfnod hwnnw.

8.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2008.

RHAN 2 GWNEUD CAIS AM GYMORTH A CHYMHWYSTRA

Ceisiadau

9.—(1) Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

(2) Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(3) Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 yw—

(a) 28 Chwefror 2008, yn achos Canolfan Bologna;

(b) 28 Chwefror 2008, yn achos Coleg Ewrop; ac

(c) 28 Chwefror 2008, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Myfyrwyr cymwys

10.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd—

(a) os yw awdurdod academaidd y sefydliad Ewropeaidd sy'n darparu'r cwrs dynodedig yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a

(b) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna—

(a) os yw awdurdod academaidd Canolfan Bologna yn ei enwi i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn drwy ysgrifennu at Weinidogion Cymru; a

(b) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(4) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—

(a) os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (5), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;

(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c) os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(ch) os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.

(5) Nid yw paragraff (4)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(6) At ddibenion paragraff (4)(b) ac (c) ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a) cyn 25 Medi 1991; a

(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur y mae paragraff (4)(c) yn gymwys.

(8) Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod—

(a) yn fwy nag 1, yn achos Canolfan Bologna;

(b) yn fwy na 2, yn achos Coleg Ewrop; ac

(c) yn fwy nag 1, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

(9) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.

(10) Er gwaethaf paragraffau (2) i (4) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (11) a (12), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn sefydliad Ewropeaidd—

(a) os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—

(i) â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu

(ii) â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr un sefydliad Ewropeaidd ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(11) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(12) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(13) Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.

(14) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.

(15) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) neu a enwyd o dan baragraff (3)(a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.

(16) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (15) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn rhinwedd paragraff (10), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.

(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008, yw 28 Chwefror 2008 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 28 Chwefror 2009.

(18) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Cyrsiau dynodedig

11.  Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 10 os yw—

(a) yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;

(b) yn gwrs llawnamser;

(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch) yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.

Cyfnod cymhwystra

12.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 10, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi (“cyfnod cymhwystra”).

(2) Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—

(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 13; neu

(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—

(a) terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;

(b) penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c) trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 39.

Trosglwyddo cymhwystra

13.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—

(a) os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b) os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac

(c) os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.

(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3)

1962 p.12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y ddarpariaeth a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a osodir yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3. Back [3]

(4)

Gorch. 9171. Back [4]

(5)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG. Back [5]

(7)

O.S. 2007/2313 (Cy.184). Back [7]