Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 17 (Cy.6) (C.1)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008

Wedi'i wneud

8 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofal Plant 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006.

Cychwyn

2.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2008:—

(a) Adrannau 22 i 29, mewn perthynas â swyddogaethau cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru;

(b) Adran 30 (dehongli Rhan 2);

(c) Adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru);

(ch) Adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989).

3.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008:—

(a) Adran 103(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau paragraff 28 o Atodlen 2 y nodir yn Erthygl 3(b) isod;

(b) Paragraff 28 o Atodlen 2.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

8 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 o ran Cymru.

Mae Erthygl 2 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2008. Mae Erthygl 3 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2008 i'r graddau a bennir ym mhob paragraff.

Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adrannau 22 i 29 (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol yng Nghymru). Mae Erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 30 (dehongli Rhan 2). Mae Erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 101 (darparu gwybodaeth am blant yng Nghymru). Mae Erthygl 2(ch) yn dwyn i rym adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989), mewn perthynas â Chymru.

Mae Erthygl 3(a) yn dwyn i rym adran 103(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006, (i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006). Mae Erthygl 3(b) yn dwyn i rym paragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]