Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2

Disgyblion Chweched Dosbarth

1.  Yr wybodaeth ganlynol am bob person sydd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol neu a oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol ar unrhyw adeg flaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth—

(a) a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru;

(b) teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio; ac

(c) a sgriniwyd y disgybl i nodi unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ac ar ddiwedd ei raglen gweithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, o ran unrhyw sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd—

(i) na chawsant eu hasesu oherwydd na nodwyd unrhyw sgiliau sylfaenol pan sgriniwyd y disgybl; neu

(ii) cawsant eu hasesu a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl—

(aa) o dan lefel mynediad,

(bb) ar lefel mynediad 1,

(cc) ar lefel mynediad 2,

(chch) ar lefel mynediad 3,

(dd) ar lefel 1, neu

(dddd) yn uwch na lefel 1, neu

(iii) ni wyddys neu gwrthododd y disgybl gael ei asesu.

(ch) pa gymorth a gynigiwyd i'r disgybl a pha gymorth a dderbyniodd y disgybl pan aseswyd y disgybl o dan is-baragraff (c)(ii) a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl o dan lefel mynediad 1.

2.  Mewn perthynas â phob gweithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio—

(a) cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;

(b) y dyddiad y dechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;

(c) y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;

(ch) enw darparwr y gweithgaredd dysgu;

(d) a gyflwynir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg;

(dd) a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd;

(e) a yw'r disgybl yn parhau i astudio'r gweithgaredd dysgu neu a yw wedi ei gwblhau neu wedi rhoi'r gorau iddo; ac

(f) p'un a yw'r disgybl wedi cwblhau'r gweithgaredd dysgu neu wedi rhoi'r gorau iddo, y dyddiad y cwblhaodd y disgybl y gweithgaredd dysgu neu y rhoddodd y gorau iddo ac a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.

3.  Yr wybodaeth ganlynol am ddisgybl a roddodd y gorau i fynychu chweched dosbarth yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth—

(a) y dyddiad y gadawodd y disgybl yr ysgol; a

(b) y rheswm pam y gadawodd y disgybl yr ysgol, os yw'n hysbys.

RHAN 3

Disgyblion sydd wedi eu Gwahardd

1.  Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth—

(a) Rhif unigryw cyfredol disgybl;

(b) cyfenw;

(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d) rhyw;

(dd) dyddiad geni; ac

(e) y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 ac yn eu hailddeddfu'n sylweddol fel y'u diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedair diwrnod ar ddeg, y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen ag y bydd yr awdurdod yn gofyn amdano mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau y caniateir i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996, a'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i “gydlynwyr gwybodaeth” ei darparu. O gymhwyso i Gymru y diffiniad o gydlynydd gwybodaeth a geir yn adran 537A(9) o Ddeddf Addysg 1996, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'r swyddogaethau hynny, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu iddynt ei darparu yn ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion mewn unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac mewn unrhyw gwrs astudiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.