(Rheoliad 2)
| Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnodau | Graddau'r dirymu |
|---|---|---|
| Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 | O.S 2003/3237 (Cy.317) | Y rheoliad yn gyfan |
| Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/549 (Cy.53) | Y rheoliad yn gyfan |
| Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 | O.S. 2005/35 (Cy.2) | Y rheoliad yn gyfan |
| Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 | O.S. 2006/30 (Cy.4) | Y rheoliad yn gyfan |
(Rheoliad 4)
1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—
(a) Rhif unigryw cyfredol y disgybl ac, os bu gan yr ysgol rif unigryw blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni;
(e) grwp ethnig;
(f) hunaniaeth genedlaethol;
(ff) dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac
(g) grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2. Cod post y cartref lle y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3. A gafodd yr wybodaeth am grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon ei darparu gan—
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) ysgol flaenorol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
4. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5. A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
6. A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan—
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) ysgol flaenorol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
7. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, ac eithrio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
8. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(12), wedi gwneud cais am gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ac wedi ei gael yn gymwys.
9. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad ynghylch—
(a) prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;
(b) pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig, sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw; ac
(c) y cymorth a ddarperir.
10. Pan yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
11. A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol tra bu ar gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
12. Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac, os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
13. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu mewn mwy nag un ysgol ac, os yw'r disgybl wedi ei gofrestru'n ddisgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth amdano yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn ei mynychu am y rhan fwyaf o'i amser.
14. A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
15. Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg—
(a) mewn dosbarth meithrin;
(b) mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
(c) mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi ei ddynodi'n ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu wedi ei drefnu'n ddosbarth arbennig gan yr ysgol.
16. Cyfanswm nifer y canlynol—
(a) sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan oedd y disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b) y sesiynau ysgol hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaeth y disgybl eu mynychu; ac
(c) nifer yr absenoldebau a awdurdodwyd a'r absenoldebau nas awdurdodwyd ar gyfer y disgybl.
Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB gan adran 202(1) o Ddeddf 2002. Back [12]