Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2000 (O.S. 2000/944) (“y prif Reoliadau”).

O dan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 trosglwyddwyd rhai o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â chymorth i fyfyrwyr o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau baragraffau newydd i'r perwyl bod unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 1 neu Ran 2 o'r prif Reoliadau i'w ddarllen, mewn perthynas â benthyciadau i fyfyrwyr a wneir gan Weinidogion Cymru, fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “Secretary of State” yn rheoliad 3 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 9 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 6 yn mewnosod rheoliad 12 newydd yn y prif Reoliadau o ran Cymru. Mae Gweinidogion Cymru'n dileu rhwymedigaeth benthyciwr i ad-dalu ei fenthyciad i fyfyriwr mewn amgylchiadau penodol. Caiff y benthyciad ei ddileu os bydd farw'r benthyciwr, os bydd y benthyciwr yn cyrraedd 65 oed, neu os bydd y benthyciwr yn derbyn budd-dal ar sail anabledd a'i fod, o ganlyniad i'r anabledd, yn an-ffit yn barhaol i weithio. Bydd categorïau penodol o fenthycwyr a gymerodd fenthyciadau ar gyfer cyrsiau yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gweld dileu eu benthyciadau i fyfyrwyr 25 o flynyddoedd ar ôl iddynt ddod yn atebol am eu had-dalu. Bydd benthyciadau'r benthycwyr sy'n weddill yn cael eu dileu pan fydd y benthycwyr yn cyrraedd 65 mlwydd oed.

Mae rheoliad 7 yn rhoi Rhan 5 newydd yn y prif Reoliadau, gan fewnosod rheoliadau 53 i 57C newydd o ran Cymru. Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr gan fenthycwyr sy'n mynd dramor i fyw yn dilyn eu cyrsiau addysg uwch. Mae'n ddyletswydd ar fenthycwyr i hysbysu Gweinidogion Cymru pan fyddant yn mynd dramor i fyw am gyfnod o fwy na thri mis. Rhaid iddynt hefyd ddarparu gwybodaeth am eu hincwm (rheoliad 54 o'r prif Reoliadau).

Pan fydd benthyciwr yn mynd dramor i fyw, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno iddo hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ad-dalu ei fenthyciad yn unol â'r prif Reoliadau. Yn y cyfryw hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r benthyciwr sydd wedi methu â darparu ar eu cyfer wybodaeth y mae ei hangen o dan reoliad 54 o'r prif Reoliadau wneud ad-daliad i ostwng y swm sy'n weddill o'i fenthyciad fel bod y swm yn cyfateb i swm a fyddai ar ôl i'w dalu pe bai'r benthyciwr wedi darparu'r wybodaeth.

Bydd yn ofynnol i fenthycwyr ad-dalu eu benthyciadau drwy randaliadau penodol o dan reoliad 56 o'r prif Reoliadau, onid yw rheoliad 57 yn gymwys. Bydd yn rhaid iddynt ad-dalu, bob mis, randaliad penodol a fydd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 57A.

O dan reoliad 57 o'r prif Reoliadau caiff benthyciwr sydd wedi cydymffurfio â chais am roi gwybodaeth ad-dalu ei fenthyciad am gyfnod o 12 mis mewn 12 rhandaliad ar sail ei incwm. Rhandaliad ydyw sy'n un rhan o ddeuddeg o 9% o incwm gros y benthyciwr o ddiystyru incwm hyd at drothwy cymwys, ac unrhyw incwm y bydd y benthyciwr yn gwneud ad-daliadau ar fenthyciad mewn cysylltiad ag ef drwy system drethi'r DU. Ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, gellir ailasesu ad-daliadau'r benthyciwr, neu gall y benthyciwr ad-dalu yn unol â rheoliadau 56 a 57. Caiff y benthyciwr hefyd ofyn am i'r rhandaliadau ar sail ei incwm gael eu hailbenderfynu yn ystod y cyfnod o 12 mis.

Mae rheoliad 57A yn nodi sut y cyfrifir y trothwy cymwys a'r rhandaliadau penodol. Cyfrifir y rhain drwy gyfeirio at fynegai lefel prisiau'r wlad y mae'r benthyciwr yn preswylio ynddi. Cyfrifir y mynegai lefel prisiau ar gyfer y wlad honno drwy ddefnyddio'r mynegeion lefel prisiau cymharol dros dro diweddaraf wedi eu mesur fel cynnyrch domestig gros a lunnir gan Swyddfa Ystadegau y Cymunedau Ewropeaidd (“Eurostat”). Ceir y trothwy cymwys a'r rhandaliad penodol ar gyfer pob un o gyfres o fandiau o fynegeion lefel prisiau mewn tabl yn rheoliad 57A. Pan nad oes unrhyw ddata ar gael gan Eurostat, bydd data Banc y Byd yn cael ei ddefnyddio. Os nad oes unrhyw ddata mewn cysylltiad â gwlad ar gael gan Fanc y Byd, bydd y trothwy cymwys a'r rhandaliad penodol ar gyfer band A yn gymwys.

Mae rheoliad 57B yn darparu i fenthycwyr sy'n dychwelyd i fyw i'r Deyrnas Unedig roi'r gorau i wneud ad-daliadau o dan y rhan hon o'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 57C yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fenthyciwr ad-dalu'r cyfan o'i fenthyciad os yw'n fenthyciwr sy'n peidio ag ad-dalu.