Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 2

YR ATODLEN DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(9);

ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredinol ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol(10);

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(11) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(12) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(13) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a arferir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio(14) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(15);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(16);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(17);

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(18); ac

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(19).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3344 (Cy.305)).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a arferir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1, y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29) yn cael ei wirio, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol casglu ffioedd sy'n cynnwys costau arfer rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion pysgodfeydd o dan Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83, y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a) yn dweud beth yw gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 3);

(b) yn darparu'r cyfraddau ar gyfer cyfrifo beth yw cyfwerth mewn punnoedd unrhyw symiau a bennir mewn Ewros yn y Rheoliadau (rheoliad 4);

(c) yn rhagnodi sut y mae hyd “cyfnod cyfrifydda” i'w benderfynu at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5);

(ch) yn darparu, pan osodir dyletswydd ar fwy nag un person i dalu taliadau o dan y Rheoliadau, y caniateir ei gorfodi ar y cyfryw bersonau ar y cyd neu ar wahân (rheoliad 6);

(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau y mae taliadau'n daladwy iddynt o dan y Rheoliadau gyfrifo'r taliadau, eu hailgyfrifo os gwneir camgymeriad a hysbysu'r rhai sy'n atebol am dalu beth yw'r symiau dyledus (rheoliad 7);

(dd) yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau sy'n gosod taliadau o dan y Rheoliadau ac yn pennu gofynion ynghylch cynnal y cyfryw apelau a'u penderfynu (rheoliad 8);

(e) yn darparu ar gyfer talu taliadau gan un awdurdod bwyd i un arall pan fo taliadau'n daladwy i fwy nag un awdurdod (diffinnir y term “awdurdod bwyd” yn rheoliad 2) (rheoliad 9);

(f) yn ei gwneud yn ofynnol i swm penodedig gael ei dalu i'r awdurdod bwyd perthnasol gan werthwyr cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol mewn perthynas â rhoi gyntaf ar y farchnad y cyfryw gynhyrchion neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod (diffinnir y termau “awdurdod bwyd perthnasol”, “gwerthwr”, “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol”, “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol”, “rhoi gyntaf ar y farchnad” a “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod” yn rheoliad 2) (rheoliad 10);

(ff) yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwyr hynny roi i'r awdurdod bwyd perthnasol ddatganiadau niferoedd o ran cyfanswm y trafodion y mae taliadau'n daladwy arnynt ganddynt o dan reoliad 10, yn pennu'r wybodaeth i'w chynnwys yn y cyfryw ddatganiadau, yn caniatáu i'r awdurdod bwyd perthnasol ei gwneud yn ofynnol i werthwyr cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol roi gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cyfryw drafodion, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w galluogi i roi'r gyfryw wybodaeth ac yn ei gwneud yn dramgwydd diannod i fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath (rheoliad 11);

(g) yn ei gwneud yn ofynnol i swm penodedig gael ei dalu i'r awdurdod bwyd perthnasol gan berchenogion neu weithredwyr sefydliadau prosesu mewn perthynas â chynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad dan sylw (diffinnir y termau “prosesu” a “sefydliad prosesu” yn rheoliad 2) (rheoliad 12); ac

(ng) yn ei gwneud yn ofynnol i berchenogion a gweithredwyr sefydliadau prosesu roi i'r awdurdod bwyd perthnasol ddatganiadau niferoedd o ran cynhyrchion pysgodfeydd y mae taliadau'n daladwy arnynt o dan reoliad 12, yn pennu'r wybodaeth i'w chynnwys yn y cyfryw ddatganiadau, yn caniatáu i'r awdurdod bwyd perthnasol ei gwneud yn ofynnol i'r perchenogion a'r gweithredwyr hynny roi gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â chynhyrchion o'r fath, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w galluogi i roi gwybodaeth o'r fath ac yn ei gwneud yn dramgwydd diannod i fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath (rheoliad 13).

4.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(9)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Ceir testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [9]

(10)

OJ Rhif L334, 23.12.1996, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 790/2005 sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol (OJ Rhif L132, 26.5.2005, t.15). Back [10]

(11)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26). Back [11]

(12)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8). Back [12]

(13)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) y dylid ei ddarllen gyda Choridendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethi, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1). Back [13]

(14)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.29). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006. Back [14]

(15)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [15]

(16)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62. Back [16]

(17)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n gosod rheolau penodol ar rheolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig (OJ Rhif L281 25.10.2007, t.12). Back [17]

(18)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran defnyddio pepsin hylif i ganfod Trichinella mewn cig (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19). Back [18]

(19)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007, sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyniad y cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21). Back [19]