Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AC EITHRIO TALIADAU AM FEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD

Talu tâl glanio o ran rhoi gyntaf ar y farchnad neu werthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

10.—(1) Mae pob un o'r canlynol yn drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11—

(a) rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol;

(b) rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol;

(c) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol; ac

(ch) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd yna drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11, rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraffau (3) i (7) (“y tâl glanio”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a roddwyd gyntaf ar y farchnad mewn mis calendr.

(4) Os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn marchnad bysgod mewn mis calendr.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth after y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 0.5 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.25 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os—

(a) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano ; a

(b) nad yw'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu faint yn unol â Rheoliad 2406/96 neu os nad ydynt yn cael eu graddio'n ddigonol felly,

cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(7) O ran unrhyw lwyth o bysgod eigionol penodedig sy'n gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol, rhaid i'r tâl glanio beidio â bod yn fwy na 50 Ewro.

(8) Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl glanio, rhaid i'r gwerthwr dalu swm hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl glanio.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â chynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

11.—(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r gwerthwr roi datganiad niferoedd ysgrifenedig i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio'n daladwy iddo o ran cyfanswm y trafodion y codir tâl amdanynt ac y mae'r gwerthwr wedi ymwneud â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a) y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b) y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelo'r datganiad â hwy eu glanio;

(c) y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion hynny eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod, yn ôl y digwydd; ac

(ch) ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac eithrio pysgod eigionol penodedig —

(i) enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono,

(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw; a

(iii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n llai na'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);

(d) ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac sy'n bysgod eigionol penodedig —

(i) enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono, a

(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;

(dd) hysbysiad o unrhyw swm a dalwyd yn rhinwedd paragraff (4) o reoliad 10 ac a dalwyd mewn cysylltiad —

(i) â llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, neu

(ii) â llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,

gan nodi'r amgylchiadau a arweiniodd at dalu'r swm hwnnw;

(e) mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol —

(i) cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a gaiff eu glanio, a

(ii) cyfanswm swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 o ran y cynhyrchion hynny; ac

(f) swm y tâl glanio.

(3) Yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a) caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob trafodyn a gynhwysir ynddo; a

(b) rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol i alluogi'r gwerthwr i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4) Bydd unrhyw werthwr a fydd heb esgus rhesymol —

(a) yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b) yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff 3(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tâl o ran sefydliadau prosesu

12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berchennog neu weithredydd sefydliad prosesu dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (2) (“y tâl sefydliad prosesu”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(2) Cyfraniad o 0.5 Ewro y dunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i sefydliad at ddiben prosesu fydd y tâl sefydliad prosesu a hwnnw'n gyfraniad at y costau a dynnir gan yr awdurdod bwyd perthnasol pan fydd yn arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

(3) Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl sefydliad prosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd dalu swm sy'n hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl sefydliad prosesu.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â sefydliadau prosesu

13.—(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl sefydliad prosesu wneud datganiad niferoedd ysgrifenedig o ran y tâl hwnnw a'i roi i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl hwnnw'n daladwy iddo o ran y cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi dod i'r sefydliad dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2) Rhaid i ddatganiad niferoedd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —

(a) y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b) pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad; ac

(c) swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 12.

(3) Yn ystod y cyfnod o un flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a) caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad niferoedd iddo ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a

(b) rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w alluogi i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4) Bydd unrhyw berchennog neu weithredydd sydd heb esgus rhesymol —

(a) yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b) yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3)(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

14.  Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006(8).

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2007

(8)

O.S. 2006/3344 (Cy.305). Back [8]