Rheoliad 2
Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglyn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(10);
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(11);
ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(12), fel y'i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005;
ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(14), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(15), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(16);
ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(17);
ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 yn gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(18);
ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig(19); ac
ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol i weithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(20).
Rheoliad 2
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—
(a) y swm o —
(i) y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a
(ii) unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6; a
(b) y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).
(2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” (“financial period”) yw—
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar 26 Mawrth 2007 ac sy'n dod i ben ar 30 Mawrth 2008; a
(b) ar ôl hynny, y cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n dod i ben ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.
3. Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda a/neu eu trin yno yn y cyfnod.
4. Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol sydd yn cael eu categoreiddio fel anifeiliaid hela gwyllt â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.
| Math o anifail | Cyfradd fesul math o anifail mewn Punnoedd Sterling |
|---|---|
| Anifeiliaid buchol | |
| — yn llai na 8 wythnos oed pan gigyddir hwy | 1.7670 |
| — 8 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy | 3.3788 |
| Uncarnolion ac equidae | 3.1099 |
| Moch | |
| — pwysau carcas llai na 25 kg | 0.3534 |
| — pwysau carcas sy'n gytbwys â neu'n fwy na 25 kg | 0.9189 |
| Defaid a geifr | |
| — pwysau carcas llai na 12 kg | 0.1237 |
| — pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol | 0.2474 |
| — pwysau carcas mwy na 18 kg | 0.3534 |
| Dofednod | |
| — pob brwyliad; pob iâr gast; dofednod eraill sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0071 |
| — dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0142 |
| — dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg | 0.0282 |
| Hwyaid a gwyddau | |
| — sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0071 |
| — sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0142 |
| — oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0282 |
| Tyrcwn | |
| — unrhyw bwysau (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0169 |
| — oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0282 |
| Cwningod a ffermir | |
| — sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0071 |
| — sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0142 |
| — oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0282 |
| Adar hela bach | |
| — sy'n pwyso llai na 2 kg | 0.0071 |
| — sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0142 |
| — oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0282 |
| Helfiold daear bach | |
| — sy'n pwyso o llai na 2 kg | 0.0071 |
| — sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) | 0.0142 |
| — oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg | 0.0282 |
| Adar di-gêl | 0.9189 |
| Mamaliaid tir | |
| — baeddod | 1.0136 |
| — anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas sy ddim mwy na 18 kg | 0.3379 |
| — anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas mwy na 18 kg | 0.3534 |
5. Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela o ran cig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad yn y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno, i'w chyfrifo drwy luosi â £2.1204 y nifer o dunelli o gig o'r fath.
6.—(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.
(2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.
(3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.
(4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.
(5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” (“inefficiency”) yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—
(a) oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;
(b) torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;
(c) camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan swyddog;
(ch) tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(d) darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(dd) oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac
(e) unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.
(6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.
(7) Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
(8) Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).
(9) Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
7.—(1) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 6 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).
(2) Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 6(3).
(3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—
(a) rhaid i'r Asiantaeth enwebu person o'r rhestr a sefydlwyd o dan is-baragraff (4) i benderfynu'r mater;
(b) rhaid i'r person a enwebir felly roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac
(c) rhaid i'r person a enwebir felly, o fewn 1 mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
8. Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 9 a 10) drwy—
(a) lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir neu a amrywir yn unol â pharagraffau 11 i 13;
(b) ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac
(c) ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.
9. Mae'r costau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.
10. Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, mae unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—
(a) yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;
(b) yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac
(c) yn unrhyw le arall—
(i) pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a
(ii) pan gaiff yr arolygydd ei dalu amdano o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,
i'w gyfrifo fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.
11. Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.
12. Rhaid cyfrifo'r tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu y cyfryw gyfrannedd o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnwyd gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau swyddogol (ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymerwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 9) ag y bydd yr Asiantaeth yn credu ei fod yn briodol ei ddosrannu i'r tâl hwnnw yr awr;
13. Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 11 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 12, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.
14. Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 11 i 13, rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yn ôl yr awr.
15. Yn yr Atodlen hon —
(a) mae i “cynorthwyydd swyddogol” a “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “official auxiliary” a “official veterinarian” yn eu trefn yn Erthygl 2.1(h) ac (f) o Reoliad 854/2004;
(b) ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd swyddogol;
(c) ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), yw ffi am unrhyw gyfnod cyfrifyddu a dynnir mewn perthynas â lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri, ac a gyfrifir yn unol â pharagraff 3, 4 neu 5, yn ôl y digwydd;
(ch) ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 8 i 10; a
(d) mae i unrhyw ymadroddion eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Rheoliad 882/2004 yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliad 882/2004.
OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [10]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [11]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Back [12]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007, sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8). Back [13]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, treth, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.). Back [14]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (L204, 4.8.2007, t.29). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006. Back [15]
OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [16]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda' r Corrigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 a OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62. Back [17]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.12). Back [18]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, fel y'i diwygiwyd ddinethat gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran detryddio pepsin hylif ar gyfer carron Trinchinella mewn cig (OS Rhif L281, 25.10.2007, t.19). Back [19]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007, sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyn y cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21). Back [20]