Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3371 (Cy.298) (C.141)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007

Gwnaed

27 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108(1)(b) a (2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Ddeddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 18 Ionawr 2008

2.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 18 Ionawr 2008—

(a) adran 106 ac Atodlen 4, mewn cysylltiad â pharagraffau 5 i 9 ac 14 i 19 o Atodlen 4 (Mân Ddiwygiadau a Rhai Canlyniadol) yn unig;

(b) adran 107 a Rhan 3 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad â diddymu adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3) ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(4) yn unig;

(c) adran 107 a Rhan 7 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993(5) ac Atodlen 3 iddi a'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8), 9(3) a 9(4A) o Ddeddf Swn 1996(6) yn unig;

(ch) adran 107 a Rhan 9 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 45 (3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn unig.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Ionawr 2008 ddarpariaethau canlynol Deddf 2005:

(a) paragraffau 5 i 7 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n gwneud mân ddiwygiadau i destun Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Ddeddf 1990”);

(b) paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 95(1)(c) o Ddeddf 1990 fel bod y gofrestr gyhoeddus o orchmynion a hysbysiadau, y mae adran 95 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ei chadw, yn cynnwys copïau o bob gorchymyn a wneir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3A i Ddeddf 1990 mewn perthynas â dynodi tir at ddibenion rheoleiddio dosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl;

(c) paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 96 o Ddeddf 1990 gyda'r effaith o alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag ysbwriel a gaiff ei gasglu gan brif awdurdodau ysbwriel o dan adran 92C(3) o Ddeddf 1990. Mae adran 92C(3) o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ysbwriel a gesglir gan brif awdurdod ysbwriel pan fydd person wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad clirio ysbwriel a ddyroddwyd gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 92A o Ddeddf 1990;

(ch) mae paragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi is-adran (1) newydd yn adran 45 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“Deddf 2003”) gyda'r effaith bod cosbau penodedig yn unol ag adran 43(1) (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon) o Ddeddf 2003 yn daladwy i'r awdurdod lleol y dyroddwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig;

(d) mae paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn cymhwyso i adrannau 43A a 43B o'r Ddeddf honno ddiffiniadau a geir yn adran 47(1) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chosbau sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 43(1) o Ddeddf 2003 (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon);

(dd) mae paragraffau 16 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi'r term “defacement removal notice” yn lle “graffiti removal notice” yn adrannau 48, 49 a 51 o Ddeddf 2003, ac ym mhennawd adran 52 o'r Ddeddf honno;

(e) mae paragraff 17(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn mewnosod y geiriau “but not a parish or community council” yn y diffiniad o “local authority” yn adran 48(12) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw atal cynghorau plwyf a chynghorau cymuned rhag dyroddi hysbysiadau gwaredu graffiti, rhag cyflawni gwaith adfer pan na chydymffurfir â hysbysiad gwaredu graffiti a rhag adennill treuliau a dynnir wrth wneud hynny;

(f) mae Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(ff) mae Rhan 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1990 ac Atodlen 3 iddi ac i'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8) a 9(3) o Ddeddf Sŵn 1996;

(g) mae Rhan 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiad i adran 45(3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adran 2 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 2 — at ddibenion sy'n weddill 19 Chwefror 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 6 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 6 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 7 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 8 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 8 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 9 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 10 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 10 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 11 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 12 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 13 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 13 — at ddibenion sy'n weddill 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 15 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 16 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 17 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 17 — at ddibenion sy'n weddill 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 19 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 19 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 20 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 20 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 21 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 22 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 23 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 24 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 24 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 25 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 28 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 28 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 29 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 30 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 30 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 31 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 34 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adrannau 37 a 38 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 38 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 45 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 45 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adrannau 46 i 48 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 48 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 50 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 52 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 52 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 53 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 55 at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 55 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 56 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 56 — at ddibenion sy'n weddill 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 57 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 57 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 58 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 58 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 59 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 59 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 60 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 60 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 61 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 62 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 63 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 64 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 65 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 66 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 67 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 67 — at ddibenion sy'n weddill 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 69 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 70 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 71 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 72 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 73 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 73 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 74 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 74 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 75 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 75 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 76 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 77 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 78 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 79 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 80 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 81 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 82 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 82 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 83 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 84 — at ddibenion penodol 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 84 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 86 27 Hydref 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 96 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 96 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 97 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 97 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 98 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 98 — at ddibenion sy'n weddill 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 99 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 100 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 101 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 101 — at ddibenion sy'n weddill 31 Ionawr 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 102 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 102 — at ddibenion sy'n weddill 31 Ionawr 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 103 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Adran 103 — at ddibenion sy'n weddill 31 Ionawr 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Adran 104 — at ddibenion penodol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 4, paragraff 4 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 5, Rhan 1 (cerbydau) 27 Hydref 2006 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 2 (ysbwriel a sorod) 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 4 (gwastraff) — yn rhannol 16 Mawrth 2006 2006/768 (Cy.75)(C.18)
Atodlen 5, Rhan 5 (rheolaethau ar gŵn) 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)
Atodlen 5, Rhan 9 (defnyddio derbynebau cosbau penodol) — yn rhannol 15 Mawrth 2007 2006/2797 (Cy.236)(C.93)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adran 32 1 Gorffennaf 2005 2005/1675 (C.69)
Adrannau 42 — 44 18 Hydref 2006 2005/2869 (C.122)
Adran 49(1) a (3) 7 Mawrth 2006 2006/656 (C.16)
Adran 49(2) a (6) — at ddibenion penodol 7 Mawrth 2005 2006/656 (C.16)
Adran 49(2) a (6) — at ddibenion sy'n weddill 6 Ebrill 2006 2006/656 (C.16)
Adran 49(4) a (9) 6 Ebrill 2006 2006/656 (C.16)
Adran 49(8) — at ddibenion penodol 6 Ebrill 2006 2006/656 (C.16)
Adrannau 87-95 1 Ionawr 2006 2005/3439 (C.144)
Atodlen 2 1 Ionawr 2006 2005/3439 (C.144)
Atodlen 3 1 Ionawr 2006 2005/3439 (C.144)
Atodlen 4, paragraff 3 — yn rhannol 6 Ebrill 2006 2006/656 (C.16)
Atodlen 5, Rhan 8 1 Ionawr 2006 2005/3439 (C.144)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr —

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2007, O.S. 2005/1675 (C.69);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2007, O.S. 2005/2896 (C.122);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005, O.S. 2005/3439 (C.144);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006, O.S. 2006/656 (C.16);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006, O.S. 2006/1002 (C.31).

  • Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi eu gwneud o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/795 (C.19);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/1361 (C.46);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/2006 (C.69);

  • Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) (Lloegr) 2007, O.S. 2007/1390 (C.15).

(2)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]