Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
23 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
27 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
(2) Ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.001” rhoddir “1.002”.
(3) Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2007
Rheoliad 2
| Billing authority area | Prescribed figure |
|---|---|
| Blaenau Gwent | 53,800 |
| Bridgend | 103,400 |
| Caerphilly | 131,700 |
| Carmarthenshire | 140,300 |
| Cardiff | 250,100 |
| Ceredigion | 63,300 |
| Conwy | 88,700 |
| Denbighshire | 75,800 |
| Flintshire | 117,200 |
| Gwynedd | 93,600 |
| Isle of Anglesey | 54,400 |
| Merthyr Tydfil | 42,900 |
| Monmouthshire | 68,700 |
| Neath Port Talbot | 107,900 |
| Casnewydd | 107,000 |
| Pembrokeshire | 91,500 |
| Powys | 103,600 |
| Rhondda Cynon Taf | 182,000 |
| Abertawe | 180,900 |
| Torfaen | 70,500 |
| Vale of Glamorgan (The) | 95,000 |
| Wrexham | 102,800” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy —
roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle'r un presennol (Rhagdybiaethau parthed y swm gros); a
rhoi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280), 2005/3345 (Cy.259) a 2006/3347 (Cy.307) Back [2]