(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.
Mae'r Rheoliadau hyn: (a) yn ymestyn cymhwysiad y prif Reoliadau at lwythi sydd wedi'u ffurfio o nwyddau sy'n tramwy o fewn y Gymuned Ewropeaidd y cytunodd Gweinidogion Cymru gyda chorff swyddogol pwynt mynediad y nwyddau hyn yn unol â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)), y byddent hwy, Gweinidogion Cymru, yn gyfrifol am faterion penodol; a (b) yn gosod Atodlen 2 newydd yn lle'r un bresennol yn y prif Reoliadau, i roi eu heffaith i'r cyfraddau gostyngol diweddaraf y cytunwyd arnynt ar gyfer arolygiadau o ddeunydd penodol. (Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb.) Mae'r newidiadau i'r ffioedd a wneir gan y rheoliadau hyn, sydd wedi'u gosod ar gyfran o'r ffi safonol (a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau) sy'n cyfateb i gyfradd yr arolygiadau, yn seiliedig ar gyfraddau arolygu y cytunwyd arnynt ac a osodir isod:
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn perthynas â rhagflaenydd y prif Reoliadau (O.S. 2006/171 (Cy.22)). Gellir cael copi ohono gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
| Genws | Gwlad tarddiad | Cyfradd flaenorol yr arolygiadau | Ffi gychwynnola | Cyfradd newydd yr arolygiadau | Ffi gychwynnol, a bennir yn Atodlen 2 |
|---|---|---|---|---|---|
a
Y ffi gychwynnol fesul llwyth ar gyfer blodau wedi'u torri (hyd at 20,000 o ran nifer) a ffrwythau a llysiau (hyd at 25,000 kg o ran pwysau). Gosodir ffioedd cyfatebol yn y Rheoliadau ar gyfer niferoedd ychwanegol, yr uchafbris fesul llwyth ac ar gyfer oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd. |
|||||
b
Mae llwythi sy'n ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100% wedi'u heithrio o'r cynllun cyfraddau arolygu gostyngol ac maent yn ddarostyngedig i'r ffioedd arolygu mewnforio a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau. |
|||||
| Blodau wedi'u torri | |||||
| Aster | Zimbabwe | 50% | £6.62 | 100%b | — |
| Dianthus | Israel | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
| Dianthus | Moroco | 50% | £6.62 | 100% | — |
| Rosa | Ecuador | 5% | £0.66 | 3% | £0.40 |
| Rosa | Ethiopia | 25% | £3.31 | 5% | £0.66 |
| Rosa | Israel | 10% | £1.32 | 100% | — |
| Rosa | Kenya | 1% | £0.13 | 5% | £0.66 |
| Rosa | Tanzania | 25% | £3.31 | 15% | £1.98 |
| Rosa | Uganda | 5% | £0.66 | 10% | £1.32 |
| Rosa | Zimbabwe | 25% | £3.31 | 50% | £6.62 |
| Ffrwythau | |||||
| Fortunella | Israel | 50% | £6.62 | 100% | — |
| Fortunella | De Affrica | 75% | £9.93 | 100% | — |
| Malus | UDA | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Mangifera | Brasil | 10% | £1.32 | 5% | £0.66 |
| Passiflora | De Affrica | 75% | £9.93 | 50% | £6.62 |
| Prunus | Yr Ariannin | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Prunus | Chile | 10% | £1.32 | 15% | £1.98 |
| Prunus | Twrci | 15% | £1.98 | 10% | £1.32 |
| Prunus | UDA | 35% | £4.63 | 50% | £6.62 |
| Pyrus | Yr Ariannin | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Pyrus | Chile | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
| Pyrus | De Affrica | 10% | £1.32 | 15% | £1.98 |
| Citrus | Israel | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Citrus | Periw | 75% | £9.93 | 25% | £3.31 |
| Citrus | Twrci | 15% | £1.98 | 5% | £0.66 |
| Citrus | UDA | 15% | £1.98 | 10% | £1.32 |
| Citrus | Zimbabwe | 75% | £9.93 | 100% | — |
| Llysiau | |||||
| Solanum melongena | Twrci | 75% | £9.93 | 25% | £3.31 |