Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643) (“y prif Orchymyn”) er mwyn gweithredu'r offerynnau isod—

(a) Penderfyniad y Comisiwn 2007/365/EC ar fesurau brys i atal Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 139, 31.5.2007, t. 24);

(b) Penderfyniad y Comisiwn 2007/433/EC ar fesurau brys dros dro i atal Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 161, 22.6.2007, t. 66);

(c) Penderfyniad y Comisiwn 2007/410/EC ar fesurau i atal firoid y gloronen bigfain rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t. 71);

(ch) Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o'r Ariannin neu Frasil (OJ Rhif L 151, 30.4.2004, t. 76), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/347/EC (OJ Rhif L 130, 22.5.2007, t. 46); a

(d) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC yn diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod rhag cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu oddi mewn i'r Gymuned (OJ Rhif L 169, 29.6.2007, t. 51).

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae cyfeiriadau at y Penderfyniadau a restrir yn (a), (b) ac (c) i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Mae erthyglau 3, 4 a 5 yn gwneud amryw o ddiwygiadau i Atodlenni 1, 4, 5, 6 a 7 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso'r cyfyngiadau ar lanio yng Nghymru a symud oddi mewn iddi ddeunyddiau planhigion penodol (a ddisgrifir ym mhob erthygl) o drydydd gwledydd a rhannau eraill o'r Gymuned Ewropeaidd a'r gofynion am dystysgrifau ffytoiechydol a phasbortau planhigion i'r deunyddiau planhigion a restrir er mwyn atal, yn ôl eu trefn, y plâu planhigion canlynol rhag cael eu cyflwyno i Gymru a'u lledaenu oddi mewn iddi: Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell, firoid y gloronen bigfain.

Mae erthygl 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso gofynion arbennig mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o Frasil.

Mae erthygl 7 yn diwygio'r diffiniad o “Directive 2000/29/EC” er mwyn ymgorffori ynddo Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC ac mae'n ychwanegu Vitis L. at y rhestr o blanhigion yn Rhan B o Atodlen 7 i'r prif Orchymyn y mae'n ofynnol iddynt gael pasbort planhigion os ydynt i gael eu hanfon i barth gwarchod mewn rhan arall o'r Gymuned Ewropeaidd.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.