Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 ADENILL TREULIAU

Treuliau sy'n codi oddi wrth reolaethau swyddogol

41.  Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad 882/2004 gan y gweithredydd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.

Treuliau sy'n codi o ran cymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn

42.  Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu ar fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan y busnes bwyd anifeiliaid neu gan y busnes bwyd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.

RHAN 5 GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

43.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

44.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b) pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

45.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2) Ym mharagraff(1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

46.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

47.—(1) Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

(a) wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a

(b) o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2) Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1) fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —

(a) wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond

(b) y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4) I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “corff perthnasol” yw corff sy'n gweithredu—

(a) fel awdurdod cymwys;

(b) fel awdurdod fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu

(c) fel awdurdod gorfodi perthnasol.

Cyflwyno dogfennau

48.—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno—

(a) drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b) yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

(c) yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—

(a) drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b) os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Dirymu

49.  Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(16) wedi'u dirymu.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2007

(16)

O.S. 2006/590 (Cy.66) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1704 (Cy.166) ac O.S. 2007/196 (Cy.15) Back [16]