Offerynnau Statudol
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Gwnaed
19 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
14 Rhagfyr 2007
RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID
27. Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol
29. Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill
30. Hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)
31. Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30
32. Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31
35. Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig
37. Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Dynodwyd Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd(2) a pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(3) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd(4).
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5),bu ymgynghori agored a thryloyw wrth lunio'r Rheoliadau a ganlyn:
O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r ddau ddynodiad arall y cyfeiriwyd atynt i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 2005/2766. Back [3]
O.S. 2003/1246 Back [4]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. fel y'i diwygiwyd ddiwethaf drwy wneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran Rhif au ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [5]