(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (O.S. 2005/1647 (Cy.128)) (“Rheoliadau 2005”) ac yn ailddeddfu, neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau, ddarpariaethau a gynhwyswyd yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”).
2. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ynglyn ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”), ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud a gaen cellwlog atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42”) Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC (OJ Rhif L93, 17.4.1993. t.27) fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn EC neu at rannau penodedig o rai offerynnau EC i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn, neu at ran benodedig ohono, fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(4)).
4. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau sydd y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, gorchudd neu ddeunyddiau caenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef, neu offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dwr.
5. Mae rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i dorri rhai o ofynion Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4), a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ynglyn â deunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd. Mae'r Rhan hon yn darparu hefyd ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliadau 6 a 7).
6. Mae rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu, heb ddiwygiadau o sylwedd, ddarpariaethau Rheoliadau 2005 o ran finyl clorid (rheoliadau 8 a 9).
7. Mae rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu darpariaethau o Reoliadau 2005 sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig (“RCF”), ynghyd â mân ddiwygiadau er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42 (rheoliadau 10 ac 11).
8. Yn neilltuol, mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn —
(a) yn rheoli pa sylweddau y gellir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF; gall y rhain amrywio yn ôl p'un ai y mae wedi ei araenu â phlastigion ai peidio (paragraff (3));
(b) yn rheoleiddio pa sylweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu araenau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));
(c) yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) mewn perthynas â sylweddau sy'n cael eu defnyddio fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu RCF nad yw wedi ei araenu â phlastig (paragraff (5));
(ch) yn creu troseddau o ran gwerthu, mewnforio neu wneud defnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio (paragraffau (6) a (7)); a
(d) yn creu gofyniad amodol i ddarparu datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol i fynd gydag RCF pan gaiff hwnnw ei farchnata cyn y cam adwerthu (paragraff (8)).
9. Mae Rheoliad 11 yn cymhwyso, i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig, y rheolaethau presennol (sydd yn deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC) ynglyn ag ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn neilltuol drwy —
(a) pennu terfynau ymfudo cyffredinol ar gyfer RCF sydd wedi ei araenu â phlastig (paragraffau (1) a (2));
(b) cymhwyso i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig y terfynau ymfudo penodol sydd yn gymwys i rai sylweddau sy'n cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) a (4)); ac
(c) cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau rhagnodedig ar gyfer gwirio cydymffurfiad â therfynau ymfudo (paragraffau (5) a (6)).
10. Mae Rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau arbediadau a darpariaethau trosiannol sydd —
(a) yn cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau 1987 ar gyfer unrhyw RCF a gafodd ei weithgynhyrchu cyn 29ain Ebrill 1994 ac sy'n dal mewn cylchrediad; a
(b) yn creu amddiffyniad mewn perthynas ag RCF a gafodd ei weithgynhyrchu yn y Gymuned Ewropeaidd, neu ei fewnforio iddi, cyn 29ain Ionawr 2006.
11. Mae rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol cyffredinol a darpariaethau gorfodi sydd —
(a) yn pennu cosb am dorri'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i rai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 13);
(b) yn dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer gwahanol swyddogaethau o dan y Rheoliadau (rheoliad 14);
(c) yn darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau sydd wedi eu cyflawni gan y corff neu bartneriaeth hwnnw (rheoliad 15);
(ch) yn darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, boed achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 16);
(d) pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 17);
(dd) darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn cyhuddiad o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 18);
(e) pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 19);
(f) darparu ar gyfer dadansoddiad o sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth rheoliad 20); ac
(ff) cymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 21).
12. Yn Rhan 5 mae'r Rheoliadau hyn hefyd —
(a) yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) (rheoliad 22);
(b) yn gwneud gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru ) 2006 (O.S. 2006/2982 (Cy.273)) ac i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463) (rheoliadau 23 a 24); ac
(c) yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 25).
13. Mae asesiad effaith reoleiddiol cyflawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 11eg Llawr, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW