Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Cyffredinol

Troseddau a chosbau

13.—(1) Mae unrhyw berson —

(a) sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 8(2), 10(3), (4), (6) neu (7), neu 11(1) neu (3);

(b) sydd yn rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu i gyflawni Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu'r Rheoliadau hyn, neu'n methu heb esgus rhesymol i ddarparu unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw'n ei cheisio'n rhesymol; neu

(c) sydd yn darparu'n ymwybodol neu'n fyrbwyll wybodaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mewn cydymffurfiad honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (b),

yn euog o drosedd.

(2) Mae unrhyw berson sydd yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a) yn achos trosedd a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (c) neu yn rheoliad 4 neu 5 —

(i) i ddirwy, neu i garchariad am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau, o'i gael yn euog drwy dditiad;

(ii) i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol, neu i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 6 mis, neu'r ddau, yn dilyn collfarn ddiannod; a

(b) yn achos trosedd a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) — i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 3 mis, neu i ddirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau, yn dilyn collfarn ddiannod.

(3) Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1)(b) fel gofyniad ar unrhyw berson i ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os gallai ei hunan-argyhuddo drwy wneud hynny.

Gorfodi

14.—(1) Bydd pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal, a phob awdurdod iechyd porthladd oddi mewn i'w gylch, yn gweithredu ac yn gorfodi —

(a) darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a

(b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi, yn ogystal, ddarpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

(3) Bydd pob awdurdod bwyd, oddi mewn i'w ardal, yn gweithredu ac yn gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

15.—(1) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o'r canlynol, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef —

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforaethol, neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn cymhwyster o'r fath,

ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg trydydd parti

16.  Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall, y person arall hwnnw sydd yn euog o'r drosedd; a gellir cyhuddo person o'r drosedd, a'i gael yn euog ohoni, p'un ai a ddygir achos cyfreithiol ai peidio yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

17.  Ni cheir cychwyn erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi i dair blynedd ers dyddiad cyflawni'r drosedd ddod i ben, neu wedi i un flwyddyn ddod i ben ers i'r erlynydd ddarganfod y drosedd, pa un bynnag fo'r cynharaf.

Amddiffyniadau cyffredinol

18.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod ef neu hi wedi gweithredu pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawniad y drosedd ganddo ef neu hi neu gan berson a oedd dan eu rheolaeth.

(2) Heb iddo leihau effaith trwch paragraff (1), dylid ystyried bod person a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 neu 13(1)(a) ac na wnaeth —

(a) paratoi'r deunydd neu eitem yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn cysylltiad ag ef; ac na wnaeth ychwaith

(b) mewnforio'r deunydd neu eitem dan sylw i'r Deyrnas Unedig,

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw'r person hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).

(3) Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r person hwnnw'n profi —

(a) bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall nad oedd dan ei reolaeth ef neu hi, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b) naill ai —

(i) bod ef neu hi wedi cyflawni pob gwiriad, ar y deunydd neu eitem dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii) ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r person hwnnw ddibynnu ar wiriadau a oedd wedi eu cyflawni gan y sawl a ddarparodd y deunydd neu eitem honno ar ei gyfer ef neu hi; a

(c) nad oedd ef neu hi'n gwybod, ac nad oedd ganddo neu ganddi reswm i amau adeg cyflawniad y drosedd, y byddai ei weithred neu anweithred ef neu hi yn gyfystyr â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4) Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r drosedd yn drosedd gwerthiant ac mae ef neu hi yn profi —

(a) bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall nad oedd dan ei reolaeth ef neu hi , neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b) nad oedd y gwerthiant a oedd yn sylwedd y drosedd yn werthiant o dan ei enw neu farc ef neu hi; ac

(c) nad oedd ef neu hi'n gwybod, ac na ellid disgwyl yn rhesymol iddo neu iddi wybod adeg cyflawniad y drosedd, y byddai ei weithred neu anweithred ef neu hi yn gyfystyr â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5) Os digwydd, mewn unrhyw achos cyfreithiol, fod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai bod ef neu hi —

(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b) pan fo ef neu hi wedi ymddangos yn flaenorol gerbron y llys mewn cysylltiad â'r drosedd honedig, o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf ef neu hi,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd yn ei feddiant ef neu hi ar y pryd ac a oedd yn enwi'r person arall hwnnw neu'n cynorthwyo i'w adnabod.

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddi

19.—(1) Mae swyddog awdurdodedig sydd wedi cael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylid ei dadansoddi, i rannu'r sampl yn dair rhan.

(2) Os yw'r sampl yn cynnwys cynwysyddion seliedig, a phe bai eu hagor yn rhwystro dadansoddiad cywir ym marn y swyddog awdurdodedig, mae'r swyddog awdurdodedig i rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair cyfran, ac mae pob cyfran i'w thrin fel pe bai'n rhan.

(3) Bydd y swyddog awdurdodedig —

(a) yn gosod pob rhan mewn cynhwysydd addas ac yn ei selio os bydd angen;

(b) yn marcio pob rhan neu gynhwysydd;

(c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol — yn rhoi un rhan i'r perchennog, a'i hysbysu ar bapur y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch) yn cyflwyno un rhan i'w dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a

(d) yn cadw un rhan er mwyn ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 20.

Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

20.—(1) Pa fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 19 ac —

(a) pan fwriedir cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, neu pan fo achos o'r fath wedi ei gychwyn; a

(b) mae'r erlyniad yn bwriadu dyfynnu fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2) Bydd y swyddog awdurdodedig —

(a) yn gallu gweithredu fel a ganlyn, o'i wirfodd ef neu hi ei hun; neu

(b) yn gweithredu fel gan ganlyn —

(i) os bydd yr erlynydd (a bwrw bod hwnnw'n rhywun heblaw'r swyddog awdurdodedig) yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw;

(ii) os bydd y llys yn gwneud gorchymyn i'r perwyl hwnnw; neu

(iii) (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw,

sef anfon y rhan argadwedig o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3) Bydd Cemegydd y Llywodraeth yn dadansoddi'r rhan a anfonwyd ato ef neu hi o dan baragraff (2), ac yn anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4) Bydd unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth yn cael ei llofnodi ganddo ef neu hi neu ar ei ran, ond gall unrhyw berson gynnal y dadansoddiad dan gyfarwyddyd y sawl sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5) Bydd y swyddog awdurdodedig, yn syth ar ôl ei derbyn, yn darparu copi o dystysgrif Cemegydd y Llywodraeth o'r dadansoddiad ar gyfer yr erlynydd (os yw hwnnw'n rhywun heblaw'r swyddog awdurdodedig) a'r diffynnydd.

(6) Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn am daliad o ffi sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad ar gyfer talu rhai neu'r cyfan o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3); ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a nodir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7) Yn y rheoliad hwn, mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar-ddiffynnydd.

Gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf

21.—(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a) adran 2 (yn ymestyn ystyr “sale” etc);

(b) adran 30(8) (sydd yn ymwneud â thystiolaeth ddogfennol).

(2) Wrth weithredu adran 32 o'r Ddeddf (hawliau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad at y Ddeddf yn is-adran (1) yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.

(3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006, ac at y Rheoliadau hyn —

(a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i'w fwyta gan bobl) gyda'r newidiadau bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cael eu hystyried yn rhai sy'n cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn ôl eu trefn;

(b) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006

22.—(1) Diwygir Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006(13) yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn Atodlen 3 (datganiad o gydymffurfiad), rhodder y canlynol yn lle is-baragraff (5) o baragraff 1 —

(5) cadarnhad bod yr eitem geramig neu'r eitemau ceramig yn bodloni'r gofynion perthnasol —

(a) yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)   

(i) yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(14) fel y cafodd ei ddiwygio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC(15); a

(ii) yn Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(16)..

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

23.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(17), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt), rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987.

Gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau 2006

24.—(1) Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2005”.

(3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 11 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi), rhodder “rheoliad 9(2) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007” yn lle'r ymadrodd “rheoliad 7(2) o Reoliadau 2005”(18)”.

Dirymiadau

25.  Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt —

(a) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005;

(b) Rheoliad 24 o Reoliadau 2006.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2007

(13)

O.S. 2006/1704 (Cy.166) Back [13]

(14)

OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12. Back [14]

(15)

OJ Rhif L110, 30.4.2005, t.36. Back [15]

(16)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4. Back [16]

(17)

O.S. 1990/2463. Cafodd swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, cyn belled ag y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd y Swyddogaethau hynny eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [17]

(18)

O.S. Back [18]