Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Rheolaethau a therfynau

10.—(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd —

(a) yn gynnyrch gorffenedig ynddo'i hun; neu

(b) yn rhan o gynnyrch gorffenedig sydd yn cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sy'n dod i gysylltiad â bwyd drwy gael ei ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw.

(2) Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir —

(a) yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II yn achos —

(i) caen heb ei araenu; neu

(ii) caen wedi ei araenu pan fo'r araen yn deillio o gellwlos;

(b) yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II yn achos caen sydd i'w araenu, pan fydd yr araen yn cynnwys plastigion,

ac mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

(4) Wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar unrhyw gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2006.

(5) Caiff sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II eu defnyddio fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu caen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.

(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson

(a) gwerthu;

(b) mewnforio; neu

(c) defnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo bwyd,

unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei weithgynhyrchu'n groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).

(7) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo neu werthu bwyd —

(a) pan fo'r bwyd yn cynnwys dwr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb — unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sy'n cynnwys ether bis(2-hydrocsiethyl), ethanedïol, neu'r ddau sylwedd hyn;

(b) unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig yn y fath fodd ag i beri bod unrhyw wyneb printiedig o'r caen hwnnw'n dod i gysylltiad â'r bwyd.

(8) Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol iddo.

Terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion

11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac —

(a) y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b) y gellir trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sydd yn fwy na therfyn ymfudo o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac—

(a) sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b) y gellir ei lenwi, ac nad oes modd ymarferol i amcangyfrif maint yr arwynebedd arno sydd mewn cysylltiad â bwyd; neu

(c) sydd yn gap, yn gasged, yn gaead neu'n ddyfais gyffelyb ar gyfer selio,

mae'r terfyn ymfudo cyflawn i fod yn drosglwyddiad o 60 miligram o gyfansoddion fesul cilogram o fwyd.

(3) Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) —

(a) y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b) y gellir trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na'r terfynau ymfudo penodol a restrir yng ngholofn 4 o'r Adrannau hynny, fel y'i darllenir gyda'r cyflwyniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.

(4) Pan fo'r terfyn ymfudo ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig —

(a) sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b) nad oes modd ei lenwi, neu nad oes modd ymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y caen a maint y bwyd sydd mewn cysylltiad ag ef,

mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2006, fel y'i darllenir gyda rheoliad 11 o'r Rheoliadau hynny; ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.

(6) Nid yw Paragraff (5) yn gymwys dan unrhyw amgylchiadau y mae rheoliad 9(1) neu (2) yn gymwys iddynt.

Darpariaethau arbediad a throsiannol ac amddiffyniadau

12.—(1) Er gwaethaf dirymiad Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(11), o ran caen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd cyn 29ain Ebrill 1994, mae'r amddiffyniadau yn rheoliad 6A o'r Rheoliadau hynny'n gymwys o ran troseddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oeddynt yn gymwys i droseddau o dan y darpariaethau cyfwerth yn y Rheoliadau hynny.

(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol ynglyn â throsedd o dorri rheoliad 10(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 11(1) neu (3), mae'n amddiffyniad i brofi —

(a) bod y weithred a oedd yn drosedd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig a oedd wedi ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 29ain Ionawr 2006; a

(b) na fuasai'r weithred a oedd yn drosedd wedi bod yn drosedd o dan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 yn union cyn i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 ddod i rym(12).

(11)

O.S. 1987/1523, fel y cafodd ei ddiwygio gan O.S. 1990/2487, O.S. 1991/1476, ac O.S. 1994/979. Back [11]

(12)

O.S. 2005/1647 (Cy.128). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio ar ôl hynny gan O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2006/2982 (Cy.273), ond nid oes yr un o'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r ddarpariaeth hon. Back [12]