Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Rhagarweiniol

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym —

(a) at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3), ar 1af Awst 2008; a

(b) at bob diben arall, ar 6 Rhagfyr 2007.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/72/EC” (“Directive 2002/72/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(6);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(7);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006, sy'n ymwneud ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(8);

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) o'r Ddeddf, ond nid yw'n cynnwys awdurdodau iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y cylch hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd ar ffurf dalen denau a geir o gellwlos puredig sydd wedi ei ddeillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gan neu heb ychwanegu sylweddau addas, naill ai mewn crynswth neu ar un neu'r ddau o'r wynebau; ond nid yw'n cynnwys casinau synthetig sydd wedi eu gwneud o gellwlos atgynyrchiedig;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi nwydd ar ddangos i'w werthu, neu fod mewn meddiant arno er mwyn ei werthu, a dylid dehongli “gwerthiant” a “gwerthwyd” yn unol â hynny.

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio, yn ystod busnes, o rywle heblaw Aelod-wladwriaeth ;

mae “paratoad” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, a dylid dehongli “paratoi” (“prepare”) yn unol â hynny;

ystyr “plastigion” (“plastics”) yw'r deunyddiau ac eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb 2002/72/EC yn gymwys iddynt;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (boed yn un o swyddogion yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb am weithredu a gorfodi o dan reoliad 14, ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sydd yn codi o dan y Rheoliadau hyn;

(2) Ac eithrio yn rheoliadau 5 a 7, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd yn dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

(3) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 neu Reoliad 2023/2006 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

(4) Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Cwmpas

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau a'r eitemau hynny sydd wedi eu nodi yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3).

RHAN 2 Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Gorfodi Rheoliad 1935/2004

4.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sydd yn torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 1935/2004 yn euog o drosedd —

(a) Erthygl 3 (gofynion cyffredinol);

(b) Erthygl 4 (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus);

(c) Erthygl 11(4) a (5) (darpariaethau o ran awdurdodiad y Gymuned);

(ch) Erthygl 15(1), (2), (3), (4), (7) ac (8) (labelu);

(d) Erthygl 16(1) (datganiad o gydymffurfiad);

(dd) Erthygl 17(2) (y gallu i olrhain).

Gorfodi Rheoliad 2023/2006

5.  Mae unrhyw berson sydd yn methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfiad ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004

6.  Y cyrff canlynol sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 1935/2004, fel y nodir isod —

(a) mewn cysylltiad ag Erthyglau 9 a 13, yr Asiantaeth Safonau Bwyd;

(b) mewn cysylltiad ag Erthyglau 16(1) a 17(2), yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb am orfodi yn unol â rheoliad 14(1).

Awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 2023/2006

7.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) a 7(3) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal.

RHAN 3 Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau, a therfynau ymfudo

8.—(1) Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sy'n cael eu gweithgynhyrchu â pholymerau a chydbolymerau finyl clorid —

(a) peidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn maint sydd yn fwy nag 1 miligram fesul cilogram o'r deunydd neu'r eitem fel y caiff ei fesur yn ôl y dull dadansoddi a nodir yn rheoliad 9(1); a

(b) bod wedi eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sydd yn fwy na 0.01 miligram o finyl clorid fesul cilogram o fwyd fel y caiff ei fesur yn ôl y dull dadansoddi a nodir yn rheoliad 9(2).

(2) Ni chaiff unrhyw berson

(a) gwerthu;

(b) mewnforio; neu

(c) defnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

Dulliau Dadansoddi

9.—(1) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw sampl i bwrpas canfod faint o fonomer finyl clorid sydd yn bresennol yn y deunydd neu eitem, er mwyn dyfarnu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 8(1)(a), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 80/766/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol lefel y monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd)(9).

(2) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw fwyd i bwrpas canfod faint o finyl clorid sydd yn bresennol yn y bwyd, er mwyn dyfarnu a yw deunydd neu eitem sydd mewn cysylltiad â'r bwyd, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r bwyd, yn cydymffurfio â rheoliad 8(1)(b), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 81/432/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol y finyl clorid a ryddheir i fwydydd gan ddeunyddiau ac eitemau)(10).

(4)

O.S. 2006/2982 (Cy.273). Back [4]

(5)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gywiriad (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio ar y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau hyn gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50). Back [5]

(6)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi, heb ddiwygiad pellach, Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC, fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC. Back [6]

(7)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4. Back [7]

(8)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75. Back [8]

(9)

OJ Rhif L213, 16.8.80, t.42. Back [9]

(10)

OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6. Back [10]