Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3252 (Cy.287)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

Gwnaed

13 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3)

1 Awst 2008

at bob diben arall

6 Rhagfyr 2007

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwrpas a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn fuddiol i rai cyfeiriadau at un o offerynnau'r Gymuned, neu at Atodiad i un o offerynnau'r Gymuned, fel y'i nodir yn rheoliad 2(4), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sydd yn pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd(3), cynhaliwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y broses o baratoi ac arfarnu'r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p.16. Cafodd Adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) ei hamnewid gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adrannau 17 a 48 eu diwygio gan baragraffau 12 a 21, yn ôl eu trefn, o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Cafodd Adran 48 ei diwygio'n ogystal gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adran 26(3) ei hamnewid gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Cafodd Adran 53(2) ei diwygio gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoli a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, ac O.S. 2004/2990. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) Cafodd y swyddogaethau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

1972 p.68. Cafodd paragraff 1A o Atodlen 2 ei fewnosod gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Cafodd y Rheoliad hwnnw ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]