Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3235 (Cy.285)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007

Gwnaed

12 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 225(5)(a) o Ddeddf Tai 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio(2) yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar y 14 Rhagfyr 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol yng Nghymru yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn ei ardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.

Ystyr Sipsiwn a Theithwyr at ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004

2.  At ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw —

(a) personau sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn carafan; a

(b) pob person arall ag arferion byw nomadaidd, beth bynnag fo eu hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

(i) y personau hynny sydd, ddim ond ar sail anghenion addysg neu anghenion iechyd nhw eu hunain, eu teulu neu eu dibynyddion neu oherwydd henaint, wedi rhoi'r gorau i deithio naill ai dros dro neu'n barhaol; a

(ii) aelodau o grwp trefnedig o bobl sioe neu bobl syrcas sy'n teithio (p'un a ydynt yn teithio gyda'i gilydd felly ai peidio).

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 225 o Ddeddf Tai 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gyflawni asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr sy'n preswylio yn eu hardal neu'n cyrchu iddi, pan fyddant yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn eu hardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio “sipsiwn a theithwyr” at ddibenion y ddyletswydd honno o ran Cymru.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ, ffôn 01685 729210, neu drwy e-bostio Laura.Evans@wales.gsi.gov.uk.

(1)

2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 225 yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd pwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 225 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]