Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3232 (Cy.284) (C.132)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007

Gwnaed

12 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 270(4) a (5)(c) o Ddeddf Tai 2004(1) ac a freiniwyd bellach(2) yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007

2.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007:

(a) adran 225, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(3);

(b) adran 226;

(c) adran 265(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 47 o Atodlen 15.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y pumed Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004 yw'r Gorchymyn hwn. Mae'n dod ag adrannau 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) a 226 (canllawiau ynghylch adran 225) o Ddeddf Tai 2004, a pharagraff 47 o Atodlen 15 (strategaethau tai a datganiadau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i'r Ddeddf Tai honno i rym yng Nghymru ar 13 Rhagfyr 2007.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn Rhif yr O.S.
Adrannau 1 a 3 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 4 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adrannau 5 i 8 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adrannau 10 i 52 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 54 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 55 (yn rhannol) 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adran 55 (y gweddill) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adrannau 56 a 57 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adrannau 58 i 78 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adrannau 79 i 81 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adrannau 82 i 147 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 179 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adran 191 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144)(C.75)
Adrannau 192 i 194 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adrannau 212 i 215 6 Ebrill 2007 2007/305 (Cy. 24)(C.12)
Adrannau 227 a 228 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144)(C.75)
Adrannau 229 i 232 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adrannau 235 a 236 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 237 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242)(C.138)
Adrannau 238 i 243 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144)(C.75)
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Adran 266 (yn rhannol) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Atodlenni 1 i 7 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152)(C.54)
Atodlen 10 6 Ebrill 2007 2007/305 (Cy. 24)(C.12)
Atodlen 12 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144)(C.75)
Atodlen 13 16 Mehefin 2006 2006/1535 Cy.152)(C.54)
(1)

2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 270(4) a(5) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 270(4) a (5) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]

(3)

I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer i wneud gorchymyn neu reoliadau yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth i rym ar ddyddiad pasio'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf. Back [3]