(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (HMO) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo (“HMO adran 257”).
Mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys i adeilad neu ran o adeilad a droswyd yn fflatiau hunangynhwysol, ac sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny, os nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r addasu yn cydymffurfio â safonau adeiladu priodol a'u bod yn dal i beidio â chydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhwysol wedi'u perchen-feddiannu. Mae fflat wedi'i berchen-feddiannu os yw wedi'i feddiannu gan berson y mae les wedi'i rhoi iddo am gyfnod o fwy nag 21 o flynyddoedd neu gan berson y mae ganddo'r ystad rydd-ddaliol yn y bloc fflatiau a addaswyd, neu gan aelod o aelwyd person o fewn y naill neu'r llall o'r ddau ddisgrifiad hwnnw.
Mae'r Rheoliadau yn addasu, at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf, mewn cysylltiad ag HMO adran 257—
y diffiniad o “person having control” (rheoliadau 3 a 9);
y materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol fodloni ei hun amdanynt wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded neu beidio (rheoliadau 4 a 5);
amodau'r drwydded (rheoliadau 6 ac 11);
y person y caniateir i orchymyn ad-dalu rhent gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef (rheoliad 7);
yr amgylchiadau y caniateir i hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 gael ei gyflwyno odanynt (rheoliad 8).
Mae'r rheoliadau hyn yn addasu hefyd adran 139 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau gorlenwi mewn cysylltiad ag HMOs adran 257(rheoliad 11).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol hefyd mewn cysylltiad ag HMOs adran 257 a gofrestrwyd o'r blaen mewn cynllun cofrestru o dan Ran 11 o Ddeddf Tai 1985 (rheoliad 13). Diddymwyd Rhan 11 o'r Ddeddf gan Orchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535) (Cy. 152) ar 16 Mehefin 2006 mewn cysylltiad â phob HMO ac eithrio HMOs adran 257. Darparodd y Gorchymyn hwnnw y byddai diddymiad Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 yn dod yn weithredol mewn cysylltiad ag adeilad neu ran o adeilad sy'n HMO adran 257 ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 ar y dyddiad y daw rheoliadau a wnaed o dan adran 61(5) i rym.
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol o dan Ran 2 o'r Ddeddf mewn perthynas â fflat sydd wedi'i leoli o fewn HMO adran 257.
Lluniwyd asesiad rheoleiddiol llawn o effaith yr offerynnau statudol i ategu darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir a gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf) yn Chwefror 2006 ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu anfoner neges e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.