(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae rheoliadau 3 i 11 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth (“HMOs”) yng Nghymru sydd wedi'u trosi'n flociau o fflatiau y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn gymwys iddynt (“HMOs adran 257”). Adeiladau yw'r rhain a droswyd yn fflatiau hunangynhaliol sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny ac lle nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol ac nad yw eto'n cydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol yn cael eu perchen-feddiannu.
Mae'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ar berson sy'n rheoli'r cyfryw HMOs adran 257 o ran—
rhoi gwybodaeth i feddianwyr (rheoliad 4);
cymryd camau diogelu, gan gynnwys camau diogelu rhag tân (rheoliad 5);
cynnal y cyflenwad dŵr a'r draenio (rheoliad 6);
cyflenwi a chynnal nwy a thrydan, gan gynnwys trefnu i'w harolygu'n rheolaidd (rheoliad 7);
cynnal a chadw rhannau cyffredin (a ddiffinnir yn rheoliad 7(6)), gosodion, ffitiadau a chyfarpar (rheoliad 8);
cynnal a chadw llety i fyw ynddo (rheoliad 9); a
darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff (rheoliad 10).
Nid yw dyletswyddau'r rheolwr yn rhychwantu'r rhannau o'r HMO na ellir yn rhesymol ddisgwyl i'r rheolwr fod â rheolaeth drostynt (rheoliad 3).
Mae rheoliad 11 yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr HMO at ddiben sicrhau bod y person sy'n rheoli HMO yn gallu cyflawni'n effeithiol y dyletswyddau a osodir arno.
O dan adran 234(3) o'r Ddeddf, mae person sy'n methu â chydymffurfio â rheoliadau 3 i 11 o'r Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd, a gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1715 (Cy. 177)), fel bod y Rheoliadau hynny, gyda rhai eithriadau, yn gymwys bellach i bob HMO y mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, gan gynnwys HMOs adran 257. Dim ond i HMOs adran 257 y mae rhai darpariaethau ychwanegol yn berthnasol. Mae rheoliad 12 hefyd yn diwygio'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r safonau sy'n berthnasol i gyfleusterau ymolchi a chael bath ac a ragnodwyd ar gyfer penderfynu pa mor addas yw ty i'w amlfeddiannu gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i'r wybodaeth ynghylch diogelu rhag tân yn yr HMO neu'r ty y mae angen ei darparu mewn cais am drwydded.
Ym mis Chwefror 2006 paratowyd asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r offerynnau statudol sy'n ychwanegu at ddarpariaethau Deddf Tai 2004 mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir, a'r gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004), ac mae ar gael gan Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu drwy anfon e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.