Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3174 (Cy.279) (C.130)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

Gwnaed

7 Tachwedd 2007

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 99 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

RHAN 1 CYFFREDINIOL

Enwi a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.

(2) Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(3); a

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.

Cychwyn darpariaethau

2.  Mae darpariaethau Deddf 2004 a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn dod i rym o ran Cymru ar y dyddiad a bennir yng ngholofn 2 at y diben a bennir ynglyn â'r dyddiad hwnnw yng ngholofn 3.

RHAN 2 DARPARIAETHAU TROSIANNOL

Tramgwyddau cosbau penodedig

3.  Ni fydd adran 95A(1) o Ddeddf 1991 (cosbau penodedig o dan Ran 3) ac Atodlen 4A iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnwyd cyn 12 Mai 2008.

Cynnydd yn uchafswm dirwyon ar gyfer tramgwyddau diannod penodol

4.  Ni fydd y cynnydd mewn cosbau y rhoddir effaith iddynt wrth ddwyn i rym adran 40 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnir cyn 26 Tachwedd 2007.

Cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd a gosod cyfarpar

5.  Nid yw adran 56(1A) o Ddeddf 1991 (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd) ac adran 56A(1) o'r Ddeddf honno (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) yn gymwys ar gyfer gwaith stryd y mae hysbysiad wedi cael ei roi ar ei gyfer o dan adran 54(1) (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith) cyn 1 Ebrill 2008.

Hysbysiadau o waith stryd

6.—(1) Nid yw'r diwygiad i adran 54(3) o Ddeddf 1991 gan adran 49(1)(a) o Ddeddf 2004 (hysbysiadau o waith stryd) yn gymwys i hysbysiadau a roddwyd o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.

(2) Nid yw adran 54(4A) o Ddeddf 1991 yn gymwys ynglyn â gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ymlaen llaw yn ei gylch o dan adran 54(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

(3) Pan roddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 sy'n pennu dyddiad dechrau ar gyfer y gwaith arfaethedig cyn 1 Ebrill 2008, nid yw adran 54(4B) o'r Ddeddf honno'n gymwys ond, os na ddechreuir yn sylweddol ar y gwaith hwnnw cyn 22 Ebrill 2008, bydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol o ran y gwaith arfaethedig ac felly bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto iddo.

(4) Nid yw adran 55(8) a (9) o Ddeddf 1991 yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan naill ai adran 54(1) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

(5) Os rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008 sy'n pennu dyddiad dechrau ar ôl 30 Mehefin 2008, bydd yr hysbysiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ebrill 2008 a bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto o ran y gwaith arfaethedig.

Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol

7.  Ni fydd y diwygiadau i adran 58 o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) gan adran 51 o Ddeddf 2004 yn gymwys o ran unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 58(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.

Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol

8.  Nid yw adran 58A o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) ac Atodlen 3 iddi yn gymwys ond pan fydd hysbysiad o dan adran 54 neu 55 o'r Ddeddf honno'n dod i law awdurdod stryd, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, bod yr ymgymerwyr yn bwriadu gwneud gwaith stryd sylweddol ar briffordd.

Dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer

9.  Nid yw'r diwygiadau i adran 70 o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) gan adran 54 o Ddeddf 2004 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 (hysbysiad o waith brys) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007

Erthygl 2

YR ATODLEN

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Adrannau 32 i 39 (cynlluniau caniatáu) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Adran 40(1) a (2) ac yn unol â hynny Atodlen 1 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 40(3) ac eithrio'r geiriau “or (4A)” yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 26 Tachwedd 2007 Cynnydd mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod o dan Ddeddf 1991
Adran 40(3) 1 Ebrill 2008 At ddibenion mewnosod y geiriau “or (4A)” yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer)
Adran 40(4) a (5) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 41(1) a (3) (tramgwyddau cosbau penodedig) ac yn unol â hynny Atodlen 3 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud gorchmynion o dan adran 95A o Ddeddf 1991 a rheoliadau o dan baragraffau 2,4(1), 5(2), 8 a 9 o Atodlen 4B iddi
Adran 41(1), (2) a (3) ac yn unol â hynny Atodlenni 2 a 3 12 Mai 2008 At bob diben arall
Adran 42 (dyletswydd awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 59(7)(c) o Ddeddf 1991 (dyletswydd gyffredinol awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith.
Adran 43(1),(2) a (4) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 43(3) (cyfarwyddiadau ynghylch amseru gwaith stryd) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 44 (cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) 26 Tachwedd 2007

Er mwyn rhoi pwer i:

(a)

gwneud rheoliadau o dan adran 56A(4) o Ddeddf 1991; a

(b)

dyroddi neu gymeradwyo, o dan adran 56A(8), god ymarfer at ddibenion adran 56A (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar)

Adran 44 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 49 (hysbysiadau o waith stryd) 26 Tachwedd 2007

Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan:

(a)

Adran 54(4A), (4B) a (4C) o Ddeddf 1991 (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol); a

(b)

Adran 55(8) o'r Ddeddf honno (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith)

Adran 49 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 51(1), (2), (3), (5), (7), (8) a (9) (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) 26 Tachwedd 2007

Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:

(a)

y diwygiadau i adrannau 55(2) a 58(1), (2),(4) a (7) o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) a

(b)

adran 58(7A) o'r Ddeddf honno

Adran 51(1), (2), (3), (5), (7),(8) a (9) 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 51(4) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 51(6) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) 26 Tachwedd 2007

Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:

(a)

y diwygiadau i adrannau 64(1) (strydoedd sensitif i draffig) a 74(3) (tâl am feddiannu'r briffordd pan estynnir cyfnod y gwaith yn afresymol) o Ddeddf 1991; a

(b)

paragraffau 1(2), 2(2), (3), (4)(f) a (5), 3(5)(b), 4(4), (5) a (7) a 5(2)(c), (3)a (4) o Atodlen 3A i'r Ddeddf honno (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol)

Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 52(3), (6) a (7) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 54 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 70(3)(b), (4A) a (4B) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer)
Adran 54 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 71 (dyroddi canllawiau i awdurdodau priffyrdd lleol o ran rhagofalon diogelwch) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 98 i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 12 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 7, Rhan 1, paragraffau 1,4 a 5(1) a (3), Rhan 2 a Rhan 4 ac eithrio 8(3) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 8, Rhan 2, ac eithrio 8(2)(a), (c), (d) ac (e) a 10(3)(a), (c), (d) ac (e) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 9, Rhan I a Rhan 3 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Atodlen 10, paragraff 3, ac eithrio 3(3)(a), (c), (d) ac (e) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 11, ac eithrio paragraffau 6 a 7 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 12, Rhan 1 31 Mawrth 2008 At bob diben
(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]