Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3171 (Cy.277)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007

Gwnaed

7 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74(A) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).

Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso.

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2) Ym mharagraff 11(2)(c)(iv) o Ran 1 o Atodlen 3 (cynnwys yr offeryn statudol neu ddatganiad arall etc), yn lle'r gair “soluble” rhodder “insoluble”.

(3) Mae'r cofnodion tabl a'r troednodiadau sy'n ffurfio Pennod D o Atodlen 5 (terfynau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) wedi'u disodli gan y cofnodion a'r troednodiadau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(4) Mae'r cofnodion tabl a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 6 (rheoli ffynonellau protein penodol).

(5) Yng ngholofn 4 o Bennod A o Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ynghylch lleihau cyfraddau ffurfiant cerrig cystin, yn lle'r gair “acidifying” rhodder “alkalising”.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 1 Y cofnodion sydd i ffurfio Pennod D o Atodlen 5 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Column 1 Column 2 Column 3
Undesirable substances Products intended for animal feed Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
a

Singly or combined, expressed as dieldrin.

b

Maximum level for aldrin and dieldrin, singly or combined, expressed as dieldrin.

c
  • Numbering system according to Parlar, prefixed by either “CHB” or “Parlar”:

    • CHB 26: 2-endo,3-exo,5-endo,6-exo,8,8,10,10-octochlorobornane,

    • CHB 50: 2-endo,3-exo,5-endo,6-exo,8,8,9,10,10-nonachlorobornane,

    • CHB 62: 2,2,5,5,8,9,9,10,10-nonachlorobornane.

Aldrina All feeding stuffs 0.01b
Dieldrina except:
— fats and oils 0.1b
— feeding stuffs for fish 0.02b
Camphechlor (toxaphene) — sum of indicator congeners CHB 26, 50 and 62c Fish, other aquatic animals, their products and by-products 0.02
except:
— fish oil 0.2
Feeding stuffs for fish 0.05
Chlordane (sum of cis- and trans-isomers and of oxychlordane, expressed as chlordane) All feeding stuffs 0.02
except:
— fats and oils 0.05
DDT (sum of DDT-, TDE- and DDE- isomers, expressed as DDT) All feeding stuffs 0.05
except:
— fats and oils 0.5
Endosulphan (sum of alpha- and beta-isomers and of endosulphan sulphate, expressed as endosulphan) All feeding stuffs 0.1
except:
— maize and products derived from the processing thereof 0.2
— oilseeds and products derived from the processing thereof, with the exception of crude vegetable oil 0.5
— crude vegetable oil 1.0
— complete feeding stuffs for fish 0.005
Endrin (sum of endrin and delta-keto-endrin, expressed as endrin) All feeding stuffs 0.01
except:
— fats and oils 0.05
Heptachlor (sum of heptachlor and of heptachlorepoxide, expressed as heptachlor) All feeding stuffs 0.01
except:
— fats and oils 0.2
Hexachlorobenzene (HCB) All feeding stuffs 0.01
except:
— fats and oils 0.2
Hexachlorocyclohexane (HCH)
— alpha-isomers All feeding stuffs 0.02
except:
— fats and oils 0.2
— beta-isomers All feed materials 0.01
except:
— fats and oils 0.1
All compound feeding stuffs 0.01
except:
— compound feeding stuffs for dairy cattle 0.005
— gamma-isomers All feeding stuffs 0.2
except:
— fats and oils 2.0
(1)

1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys y diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion a'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 ac i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), Atodlen 4, paragraff 6. Back [1]

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]

(3)

OS 2006/116 (Cy.14), fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/617 (Cy.69), OS 2006/2928 (Cy.263) ac OS 2006/3256 (Cy.296). Back [3]