Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 8(1)(d)

ATODLEN 8 Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio

Mynegiad Meini prawf
Cynnwys isel o fwynau Cynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l
Cynnwys isel iawn o fwynau Cynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l
Cyfoethog mewn halwynau mwynol Cynnwys mwynau halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 1500 mg/l
Yn cynnwys bicarbonad Cynnwys bicarbonad sy'n fwy na 600 mg/l
Yn cynnwys sylffad Cynnwys sylffad sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys clorid Cynnwys clorid sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys calsiwm Cynnwys calsiwm sy'n fwy na 150 mg/l
Yn cynnwys magnesiwm Cynnwys magnesiwm sy'n fwy na 50 mg/l
Yn cynnwys fflworid Cynnwys fflworid sy'n fwy na 1 mg/l
Yn cynnwys haearn Cynnwys deufalent haearn sy'n fwy na 1 mg/l
Asidig Carbon deuocsid rhydd sy'n fwy na 250 mg/l
Yn cynnwys sodiwm Cynnwys sodiwm sy'n fwy na 200 mg/l
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwm Cynnwys sodiwm sy'n llai na 20 mg/l

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac maent yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau o ran Cymru. Diwygiwyd y Rheoliadau hynny ddiwethaf o ran Cymru gan Reoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1509 (Cy.158)).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru ac i'r graddau a bennir ym mharagraff 3 isod yr offerynnau Cymunedol a bennir yn y paragraff hwnnw.

3.  Yr offerynnau Cymunedol yw—

(a) Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ L284, 31.10.2003, t.1);

(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau (OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34); ac

(c) o ran dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 3.11.98, t.32).

4.  Dyma'r prif newidiadau—

(a) darperir yn benodol nad yw'r Rheoliadau'n gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a ddefnyddir i oeri bwyd;

(b) estynnir y gofynion yn y Rheoliadau ynghylch marcio a labelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon i gynnwys hysbysebu dŵr o'r fath; ac

(c) gwneir darpariaeth ar gyfer rhannau o samplau a gedwir gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd at ddibenion dadansoddi sydd i'w cyflwyno ar gyfer eu dadansoddi i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig.

5.  Mae'r Rheoliadau yn—

(a) darparu ar gyfer esemptiadau o'r Rheoliadau ynghylch mathau penodedig o ddŵr a rhew ar gyfer oeri bwyd (rheoliad 3);

(b) rhagnodi'r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol a'r gweithdrefnau dros dynnu'r fath gydnabyddiaeth yn ôl a darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau i beidio â rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl pan ofynnir am hynny gan y person y mae'r penderfyniad yn effeithio arno (rheoliad 4);

(c) gosod yr amodau sy'n rhaid eu bodloni i ddatblygu ffynhonnau er mwyn marchnata dŵr ohonynt fel dŵr mwynol naturiol a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu (rheoliad 5);

(ch) gwahardd rhoi dŵr mwynol naturiol dan driniaethau a rhoi ychwanegiadau heblaw'r rhai penodedig, yn ddarostyngedig i eithriad yn achos dŵr o'r fath pan gaiff ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 6);

(d) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol sy'n cynnwys sylweddau penodedig sy'n uwch na therfynau penodedig a rhagnodi'r dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer canfod sylweddau o'r fath (rheoliad 7(1) a (2));

(dd) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol pan na chydymffurfir â gofynion penodedig ynghylch datblygu'r ffynnon y daw'r dŵr ohoni a photelu'r dŵr (rheoliad 7(3));

(e) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol mewn cynwysyddion nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig (rheoliad 7(4));

(f) cyfyngu ar y marcio a'r labelu y gellir ei roi ar ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu (gan gynnwys dŵr mwynol naturiol eferw), ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath yn cael ei farcio neu'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn dau fodd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 8);

(ff) gwahardd gwerthu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r enw “natural mineral water” neu “dŵr mwynol naturiol” oni bai ei fod yn ddŵr o'r fath; gosod gwaharddiadau eraill ynghylch gwerthu dŵr mwynol naturiol wedi'i botelu; a gwahardd gwerthu dŵr mwynol naturiol o ffynnon unigol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 9);

(g) gwahardd potelu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni bai bod y dŵr yn bodloni gofynion penodedig, gwahardd potelu o'r fath os cafodd y dŵr ei drin ag aer a gyfoethogwyd gan osôn onid yw'r driniaeth yn un awdurdodedig a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd nes bod achos y llygredd yn cael ei ddileu (rheoliad 10);

(ng) cyfyngu ar y marcio a'r labelu y caniateir ei roi ar ddŵr ffynnon, ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn un modd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 11);

(h) gwahardd gwerthu dŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” os nad yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r gofynion o ran potelu, labelu a hysbysebu yn rheoliad 10 a 11 yn eu trefn, a gwahardd gwerthu dŵr o'r fath o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 12);

(i) gwahardd potelu dŵr yfed onid yw'n bodloni gofynion Atodlen 2 (rheoliad 13);

(j) gosod cyfyngiadau ar farcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu (rheoliad 14);

(l) gwahardd gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13 neu na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14 (rheoliad 15);

(ll) dyrannu cyfrifoldeb ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau, gan gynnwys cyflawni archwiliadau penodedig er mwyn sicrhau bod gofynion penodedig ynghylch dwr mwynol naturiol a gofynion o ran bod technegau ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn sy'n gymwys ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dwr ffynnon yn cael eu bodloni (rheoliad 16);

(m) rhagnodi'r trefniadau ar gyfer trafod samplau o ddwr a gymrwyd ar gyfer ei dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau, darparu ar gyfer cyflwyno rhan o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig a'i gwneud yn ofynnol, at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn cydymffurfio ag Atodlen 2, bod yn rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliadau 17 i 19 yn eu trefn);

(n) darparu bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig y Rheoliadau yn dramgwydd a rhagnodi'r gosb sy'n gymwys pan geir collfarniad (rheoliad 20);

(o) darparu amddiffyniadau ar gyfer unrhyw dramgwydd o'r fath mewn cysylltiad â dŵr wedi'i botelu, wedi'i farcio ac wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau ddod i rym a dŵr wedi'i botelu neu wedi'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r DU ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu (rheoliad 21);

(p) cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau ddarpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 22(1) a (2));

(ph) gwahardd gwerthu dŵr sydd heb gael ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 22(3)); ac

(r) dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr wedi'i Botelu 1999 (OS 1999/1540 fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 23).

6.  Hysbyswyd y gofyniad a geir ym mharagraff 1(ch) o Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer rhoi gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).

7.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.