Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 7(1) a (2) a pharagraff 2(c) o Ran 1 o Atodlen 3, paragraff 2(c) o Ran 2 o Atodlen 3 a Nodiadau 1 a 2 o Atodlen 7

ATODLEN 6 Terfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

  

Ansoddau Mwyafswm terfynau (mg/l)
Antimoni 0.0050
Arsenig 0.010 (fel cyfanswm)
Bariwm 1.0
Cadmiwm 0.003
Cromiwm 0.050
Copr 1.0
Cyanid 0.070
Fflworid 5.0
Plwm 0.010
Manganis 0.50
Mercwri 0.0010
Nicel 0.020
Nitrad 50
Nitrid 0.1
Seleniwm 0.010

Nodyn:

Mae'r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy'n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy'n bresennol o ganlyniad i halogi.

Rheoliad 7(2)

ATODLEN 7 Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi'r ansoddau yn Atodlen 6

  

Ansoddyn Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn % Trachywiredd y gwerth paramedrig Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn %
Antimoni 25 25 25
Arsenig 10 10 10
Bariwm 25 25 25
Cadmiwm 10 10 10
Cromiwm 10 10 10
Copr 10 10 10
Cyanidau 10 10 10
Fflworid 10 10 10
Plwm 10 10 10
Manganis 10 10 10
Mercwri 20 10 20
Nicel 10 10 10
Nitrad 10 10 10
Nitrid 10 10 10
Seleniwm 10 10 10

Nodiadau:

1.  Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Atodlen 6 yn gallu mesur crynodiadau sy'n hafal i'r gwerthoedd paramedrig gyda'r cywirdeb penodedig, a'r terfynau trachywiredd a chanfod.

2.  Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi'r canlyniad i o leiaf yr un nifer o lefydd degol â'r terfyn uchaf a osodir yn Atodlen 6 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy'n cael ei ddadansoddi.

3.  Cywirdeb yw'r gwall systematig ac mae'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer mawr o fesuriadau mynych a'r union werth.

4.  Mae trachywiredd yn cynrychioli'r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o'r cyfartaledd.

5.  Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol.

6.  O ran y terfyn canfod—

(a) mae'n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy'n cynnwys crynodiad isel o'r ansoddyn; neu

(b) mae'n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o'r newydd.

7.  Dylai'r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid yn ei holl ffurfiau.