Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 4(2)(b), 5(1)(c) a (2), 7(3), 9(2)(b), 10(1)(b) a (3) a 16(1)(a)(iv) a pharagraff 1(b) o Atodlen 1 a pharagraff 4(b)(iii) o Ran 2 o Atodlen 3

ATODLEN 4 Gofynion datblygu a photelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon

1.  Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu'r dŵr gael ei osod mewn modd sy'n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi a diogelu'r priodweddau sy'n cyfateb i'r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.

2.  Rhaid amddiffyn y ffynnon neu'r allanfa rhag risg llygredd.

3.  Rhaid i'r dalgylch, y pibellau a'r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy'n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy'n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigocemegol neu ficrobiolegol i'r dŵr.

4.  Rhaid i'r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yn y man golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid. Yn benodol, rhaid bod y cynwysyddion wedi'u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy'n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dwr naturiol.

5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw'r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i'r defnyddiwr olaf.

(2) Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.

(3) Caniateir i ddŵr a ddosberthir i'r defnyddiwr olaf mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei gludo o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 23 Tachwedd 1996.

6.—(1) Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw'r dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw'n halogedig.

(2) Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynir fesul ml o ddŵr—

(a) ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b) ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

7.—(1) Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—

(a) 100 fesul ml ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b) 20 fesul ml ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

(2) Rhaid mesur cyfanswm y cyfrif cytref o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, a rhaid cadw'r dŵr ar 4 °C +/−1 °C yn ystod y cyfnod cyn iddo gael ei fesur.

8.  Rhaid bod y dŵr yn rhydd rhag—

(a) Parasitiaid a micro-organebau pathogenig,

(b) Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;

(c) Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir; a

(ch) Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir.

Rheoliad 4(9) a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 3

ATODLEN 5 Manylion o anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

Anionau Uned fesur
Borad BO3- mg/1
Carbonad CO32- mg/1
Clorid Cl- mg/1
Fflworid F- mg/l
Hydrogen Carbonad HCO3- mg/1
Nitrad NO3- mg/1
Nitrid NO2- mg/1
Ffosffad PO43- mg/1
Silicad SiO2 mg/1
Sylffad SO42- mg/1
Sylffid S2- mg/1
Cationau Uned fesur
Alwminiwm A1 mg/1
Amoniwm NH4+ mg/1
Calsiwm Ca mg/1
Magnesiwm Mg mg/1
Potasiwm K mg/l
Sodiwm Na mg/1
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio Uned fesur
Cyfanswm carbon organig C mg/1
Carbon deuocsid rhydd CO2 mg/1
Silica SiO2 mg/1
Elfennau hybrin Uned fesur
Bariwm Ba μg/l
Bromin (cyfanswm) Br μg/l
Cobalt Co μg/l
Copr Cu μg/l
Iodin (cyfanswm) I μg/l
Haearn Fe μg/l
Lithiwm Li μg/l
Manganis Mn μg/l
Molybdenwm Mo μg/l
Strontiwm Sr μg/l
Zinc Zn μg/1