Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 4(1)(a) ac (ch)(i), (2)(a) a (c), (8) a (9) a 16(1)(a)(iii)

ATODLEN 3 Cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol

RHAN 1 Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol y mae'r dŵr a echdynnir yn ei ardal ynddi, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

2.  Dyma'r manylion —

(a) y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

(b) unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

(c) y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

3.  I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

4.  Pan fydd manylion o'r fath wedi cael eu rhoi felly, rhaid i'r awdurdod perthnasol eu hasesu a chydnabod bod dŵr y mae'r manylion hynny'n ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi'i fodloni—

(a) bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I; a

(b) bod nodweddion y dŵr wedi cael eu hasesu yn unol â'r canlynol —

(i) y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

(ii) y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, a

(iii) dulliau gwyddonol cydnabyddedig.

5.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 4, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath a'r rhesymau dros ei rhoi yn y London Gazette.

RHAN 2 Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r Asiantaeth, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

2.  Dyma'r manylion —

(a) y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

(b) unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

(c) y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

3.  I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

4.  Rhaid i'r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod yn y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi ardystio—

(a) ei bod wedi'i bodloni —

(i) bod y gofynion ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu, a

(ii) gyda'r dystiolaeth a roir yn unol ag is-baragraff (c) o baragraff 2; a

(b) bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod —

(i) bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I,

(ii) bod nodweddion y dŵr wedi'u hasesu yn unol â'r canlynol—

(aa) y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

(bb) y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3; a

(cc) dulliau gwyddonol cydnabyddedig, a

(iii) bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy'n datblygu'r ffynnon.

5.  Bydd cydnabyddiaeth o'r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu'r ardystiad sy'n ofynnol gan baragraff 4.

6.  Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a'r Belfast Gazette.

RHAN 3 Gofynion a meini ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol

1.  Rhaid i arolygon daearegol a hydrolegol gynnwys y manylion canlynol —

(a) union safle'r dalgylch gan ddangos ei uchder, ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;

(b) adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;

(c) stratigraffeg yr haen hydroddaearagol;

(ch) disgrifiad o weithrediadau'r dalgylch; a

(d) darnodi'r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy'n diogelu'r ffynnon rhag llygredd.

2.  Rhaid i arolygon ffisegol, cemegol a ffisigocemegol sefydlu—

(a) cyfradd llif y ffynnon;

(b) tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;

(c) y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;

(ch) y gweddillion sych ar 180°C a 260°C;

(d) y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;

(dd) y crynodiad ïonau hydrogen (pH);

(e) yr anionau a'r cationau;

(f) yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;

(ff) yr elfennau hybrin;

(g) y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;

(ng) pan fydd yn briodol, y lefelau isotop perthnasol ac elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O —18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a

(h) gwenwyndra elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt.

3.  Rhaid i ddadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell ddangos—

(a) absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

(b) penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio'n dangos halogi ysgarthol, sy'n dangos—

(i) absenoldeb Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250 ml ar 37°C a 44.5°C,

(ii) absenoldeb streptococi ysgarthol mewn 250 ml,

(iii) absenoldeb anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50 ml, a

(iv) absenoldeb Pseudomonas aeruginosa mewn 250 ml; a

(c) cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—

(i) ar 20 i 22°C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a

(ii) ar 37°C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a dylai weddu i nodweddion arbennig dŵr mwynol naturiol a'i effaith ar yr organeb dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, sy'n gwneud iawn am ddiffygion mwynol .

(2) Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn hytrach na'r dadansoddiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), cyhyd â bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o sylwadau yn galluogi bod modd dod i'r un canlyniadau.