Rheoliadau 2(1) a (16)(2)
1. Ni cheir trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn ond —
(a) os yw at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganis, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;
(b) os bydd gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 wedi'u bodloni cyn y driniaeth; ac
(c) os na fydd i'r driniaeth gamau diheintio.
2. Rhaid i'r driniaeth ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn beidio â gwneud y canlynol—
(a) addasu cyfansoddiad ffisigocemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu
(b) gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na'r lefelau penodedig.
| Trin y gweddill | Terfyn uchaf(μg/l) |
|---|---|
| Osôn toddedig | 50 |
| Bromad | 3 |
| Bromofform | 1 |
3. Rhaid i berson sy'n ceisio cael awdurdodiad i driniaeth ag aer a gyfoethogwyd ag osôn—
(a) gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol y mae'r dŵr a echdynnir yn ei ardal;
(b) caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio'r dull o drin arfaethedig, a lle'r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; ac
(c) darparu'r wybodaeth honno i gefnogi'r cais fel y bo'r awdurdod perthnasol yn gofyn amdani.
4. Rhaid i'r awdurdod perthnasol asesu'r cais ac unrhyw wybodaeth sydd yn ei feddiant a rhaid iddo awdurdodi'r driniaeth os cafodd ei fodloni —
(a) bod cyfiawnhad i'r driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dwr yn ei ffynhonnell;
(b) bod y person sy'n cyflawni'r driniaeth yn cymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac
(c) bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.
5. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd masnachol o'r driniaeth yn effeithiol.
6. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwrthod awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.
7. Os bydd triniaeth wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth, er mwyn galluogi'r awdurdod perthnasol i asesu p'un a yw'r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—
(a) caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle'r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; a
(b) darparu'r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod yn gofyn amdani.
8. Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi'i fodloni nad yw'r amodau a bennir ym mharagraff 4 bellach yn cael eu cyflawni, caiff dynnu'n ôl awdurdodiad o driniaeth drwy roi i'r person sy'n gweithredu'r driniaeth honno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau dros dynnu'n ôl.
9. Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi hysbysu gweithredydd o dan baragraff 6 o'i wrthodiad i awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4 neu os yw'n tynnu awdurdodiad o driniaeth yn ôl o dan baragraff 8, caniateir i'r person sy'n dymuno cyflawni'r driniaeth wneud cais i'r Asiantaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw.
10. Wrth i gais am adolygiad ddod i law'r Asiantaeth rhaid iddi ymchwilio i'r mater yn y fath fodd y mae'n ymddangos i'r Asiantaeth sy'n briodol ac, ar ôl iddi ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddi naill ai gadarnhau'r penderfyniad neu gyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i roi neu adfer, fel y bo'n briodol, awdurdodiad o'r broses drin a weithredir. Yn achos cyfarwyddyd o'r fath rhaid i'r awdurdod perthnasol ar hynny gydymffurfio â'r cyfryw gyfarwyddyd.
Rheoliadau 2(1), 10(1)(b), 13, 19 a 21(2)
1. Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon —
(a) os nad yw'r dŵr yn cynnwys—
(i) unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu
(ii) unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr),
mewn crynodiad neu werth a fyddai'n golygu perygl bosibl i iechyd dynol;
(b) os nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p'un a ydyw'n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae'n eu cynnwys (p'un a ydyw'n baramedr ai peidio), yn golygu perygl bosibl i iechyd dynol;
(c) os nad yw'r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o'r paramedrau a restrir yn Nhablau A i Ch yn Rhan 2 o'r Atodlen hon yn fwy na'r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd; a
(ch) yn achos dŵr a gafodd ei baratoi o ddŵr sydd wedi'i feddalu neu wedi'i ddihalwyno, os nad yw ei galedwch yn is na'r crynodiad isaf o 60 mg Ca/l.
2. Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn Nhabl A i Ch yn Rhan 2 o'r Atodlen hon ar y cyd â'r nodiadau ar eu cyfer.