10.—(1) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr hwnnw—
(a) wedi'i echdynnu o ffynnon; a
(b) yn bodloni gofynion Atodlenni 2 a 4.
(2) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr which a gafodd ei drin ag aer a gyfoethogwyd ag osôn yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu'n ddŵr ffynnon, onid yw'r driniaeth honno'n dechneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn.
(3) Os gwelir yn ystod datblygu bod dŵr ffynnon yn llygredig ac y gallai potelu'r dŵr hwnnw fynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.
11.—(1) Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel yn cael ei marcio neu'i labelu gyda'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr a gynhwysir ynddi —
(a) wedi'i botelu fel a bennir yn rheoliad 10; a
(b) wedi'i fwriadu ar gyfer ei yfed yn ei gyflwr naturiol.
(2) Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel sy'n cynnwys dŵr sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei farcio neu'i labelu â'r canlynol—
(a) disgrifiad masnachol sy'n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw'r disgrifiad masnachol hwnnw'n cyfeirio at ddŵr y mae'r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan y disgrifiad hwnnw ac nad yw'n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu
(b) disgrifiad masnachol sy'n wahanol i enw'r ffynnon neu'r lle y caiff y cyfryw ddŵr ei ddatblygu, onid yw lle'r datblygu neu enw'r ffynnon hefyd wedi'i farcio neu wedi'i labelu ar y botel, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.
(3) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni chafodd y botel hefyd ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—
(a) enw'r lle y datblygir y ffynnon o dan sylw; a
(b) enw'r ffynnon; a
(c) mewn unrhyw achos lle y mae'r dŵr wedi mynd drwy dechneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn, y geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, y mae'n rhaid i'r geiriau ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b).
(4) Os yw'n ofynnol, yn unol â pharagraff (2)(b), i botel sy'n cynnwys dŵr ffynnon gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—
(a) mae'r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig am y dŵr ffynnon hwnnw; a
(b) mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi o leiaf amlygrwydd cyfartal i le'r datblygu neu i enw'r ffynnon ag a roir i'r disgrifiad masnachol.
(5) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr ffynnon yn groes i baragraff (4).
12.—(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”—
(a) na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 10; neu
(b) na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 11.
(2) Ni chaiff neb werthu dŵr o un ffynnon benodol wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.
13. Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yfed yn cael ei botelu onid yw'r dŵr hwnnw'n bodloni gofynion Atodlen 2.
14. Ni chaiff neb —
(a) peri bod unrhyw ddŵr yfed nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—
(i) unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu
(ii) y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”; neu
(b) peri bod unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei hysbysebu o dan—
(i) unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un a yw'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu
(ii) y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”.
15. Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu —
(a) na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13; neu
(b) na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14.
16.—(1) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw ddŵr a gydnabyddwyd yn ddŵr mwynol naturiol i sicrhau—
(a) bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau'n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol,
(b) heb ragfarnu paragraff (a) uchod, nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif,
(c) bod cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i'r dŵr fynd drwy unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i'r dŵr a ph'un a yw'n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 3, a
(d) bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni ynghylch y dŵr.
(2) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gynnal archwiliadau cyfnodol ar unrhyw dechneg i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ganddo yn unol ag Atodlen 1, er mwyn sicrhau bod gofynion yr Atodlen honno'n parhau i gael eu bodloni.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal—
(a) gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn; a
(b) er mwyn cyflawni'r swyddogaeth honno, gymryd y camau sy'n ofynnol gan Aelod-wladwriaethiau ac awdurdodau cymwys gan Erthygl 7.1, 7.2, 7.3, a 7.6 o Gyfarwyddeb 98/83 o ran cynhyrchion y mae'r Gyfarwyddeb honno a'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
17.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylid ei ddadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ymdrin â'r sampl yn unol â'r rheoliad hwn ac at ddibenion y rheoliad hwn mae “sampl” yn cynnwys potel neu boteli o unrhyw ddŵr.
(2) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi rannu'r sampl yn dair rhan, a rhaid marcio a selio neu sicrhau pob rhan yn y fath fodd y mae ei natur yn caniatáu, a rhaid i'r cyfryw swyddog—
(a) ynglyn ag un rhan o'r sampl gydymffurfio â pharagraffau (3) i (6); a
(b) ymdrin â gweddill y rhannau yn unol â pharagraff (7).
(3) Os cafodd y sampl ei brynu gan y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person y prynwyd ef ganddo.
(4) Os yw'r sampl yn sampl o ddŵr a ddygwyd i Gymru ac a gymrwyd gan y swyddog awdurdodedig cyn iddo gael ei drosglwyddo i berson sy'n bwriadu gwerthu'r dŵr hwnnw yng Nghymru, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person hwnnw.
(5) Os na fydd naill ai paragraff (3) na pharagraff (4) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi'r rhan o'r sampl i'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perchennog y dŵr y cymrwyd y sampl ohono.
(6) Ym mhob achos pan fo paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person y rhoir y rhan o'r sampl iddo bod y sampl wedi'i brynu neu'i gymryd, fel y bo'n briodol, at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus.
(7) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig, oni fydd yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, gyflwyno un o'r rhannau sy'n weddill o'r sampl i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf a dal gafael yn y rhan arall.
(8) Caniateir i unrhyw ran o sampl y mae'n rhaid ei roi o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson gael ei roi drwy ei drosglwyddo i'r person hwnnw neu i'w asiant neu drwy ei anfon at y person hwnnw drwy'r post cofrestredig neu drwy wasanaeth dosbarthiad cofnodedig; ond pan na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio'n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y person y mae'r rhan o'r sampl i'w rhoi iddo, caniateir i'r swyddog, yn hytrach na rhoi'r rhan i'r person hwnnw, ddal gafael ynddi.
(9) Os yw'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig bod unrhyw ddŵr, y mae'r swyddog wedi caffael sampl ohono at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, wedi cael ei ddatblygu neu'i botelu gan berson (nad yw'n berson y mae'n ofynnol rhoi un rhan o'r sampl iddo yn ôl y rheoliad hwn) y mae ei enw a'i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn cael eu harddangos ar y botel neu ar unrhyw gynhwysydd arall, rhaid i'r swyddog, onid yw'r swyddog yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, o fewn tri diwrnod o gaffael y sampl anfon hysbysiad at y person hwnnw sy'n ei hysbysu—
(a) bod y sampl wedi'i gaffael gan y swyddog; a
(b) ymhle y cymrwyd y sampl neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y'i prynwyd.
(10) Pan fydd sampl a gymrwyd neu a brynwyd gan swyddog awdurdodedig wedi cael ei ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, mae gan unrhyw berson y rhoddwyd rhan o'r sampl o dan y rheoliad hwn iddo yr hawl, wrth wneud cais i'r awdurdod bwyd, i gael derbyn copi o'r dystysgrif dadansoddi gan yr awdurdod hwnnw.
18.—(1) Pan fydd rhan o'r sampl wedi ei chadw o dan reoliad 17(7) ac—
(a) y bwriedir codi achos neu fod achos wedi cychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b) bod yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllir yn rheoliad 17,
bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys.
(2) O ran y swyddog awdurdodedig—
(a) caiff o'i wirfodd ei hun;
(b) rhaid iddo os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig);
(c) rhaid iddo os yw'r llys yn gorchymyn hynny; neu
(d) rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofynnir iddo gan y diffynnydd,
anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif dadansoddi.
(4) Rhaid bod unrhyw dystysgrif dadansoddi a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth wedi'i llofnodi gan y Cemegydd neu ar ei ran, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei gynnal gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.
(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi pan fydd yn derbyn y dystysgrif dadansoddi roi i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd gopi o'r dystysgrif dadansoddi gan Gemegydd y Llywodraeth.
(6) Os gwneir cais o dan baragraff (2)(ch) caniateir i'r swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhai neu'r cyfan o dreuliau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caniateir i'r swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.
(7) Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.
19. Rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n cydsynio ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83 at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn bodloni darpariaethau Atodlen 2 ai peidio.
20. Mae person yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'n mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3), neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3).
21.—(1) Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig ddangos—
(a) bod y dŵr wedi'i botelu a'i farcio neu wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b) na fyddai unrhyw dramgwydd wedi'i gyflawni gan y cyhuddedig o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999.
(2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os honnir nad yw dŵr yn bodloni'r gofynion ym mharagraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 2, mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddir ddangos—
(a) bod y dŵr o dan sylw wedi'i botelu neu'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig; a
(b) bod y dŵr yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu'i werthu.
22.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f) adran 33(2) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e)
(ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'u cymhwysir gan is-baragraff (f)
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Mae rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i unrhyw enw, disgrifiad, mynegiad, gwybodaeth neu eiriad arall y mae'n ofynnol i ddŵr neu y caniateir iddo gan y Rheoliadau hyn gael ei farcio neu'i labelu, fel y mae'n gymwys i fanylion y mae'n ofynnol eu labelu o dan Reoliadau Labelu Bwyd 1996.
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo os nad yw'r botel y potelwyd ef ynddi wedi'i marcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 fel y'u cymhwysir gan baragraff (2).
23. Dirymir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi'i Botelu 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
5 Tachwedd 2007