Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3165 (Cy.276)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2007

CYNNWYS

Go to Preamble

  1. RHAN 1

    Cyflwyniad

    1. 1. Enwi, cymhwyso a chychwyn

    2. 2. Dehongli

    3. 3. Esemptiadau

  2. RHAN 2

    Dŵr mwynol naturiol

    1. 4. Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

    2. 5. Datblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiol

    3. 6. Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato

    4. 7. Potelu dŵr mwynol naturiol

    5. 8. Marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol

    6. 9. Gwerthu dŵr mwynol naturiol

  3. RHAN 3

    Dŵr ffynnon

    1. 10. Potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon

    2. 11. Marcio, labelu a hysbysebu dwr ffynnon

    3. 12. Gwerthu dŵr ffynnon

  4. RHAN 4

    Dŵr yfed wedi'i botelu

    1. 13. Potelu dŵr yfed

    2. 14. Marcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu

    3. 15. Gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu

  5. RHAN 5

    Amrywiol ac atodol

    1. 16. Gorfodi

    2. 17. Trefniadau ar gyfer samplau a gymrwyd i'w dadansoddi

    3. 18. Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

    4. 19. Dulliau Dadansoddi

    5. 20. Tramgwyddau a chosbau

    6. 21. Amddiffyniadau

    7. 22. Cymhwyso darpariaethau eraill

    8. 23. Dirymu

    1. ATODLEN 1

      Amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn

    2. ATODLEN 2

      Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed gan gynnwys crynodiadau a ragnodwyd neu werthoedd paramedrau

      1. RHAN 1

        Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed

      2. RHAN 2

        Crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd

    3. ATODLEN 3

      Cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol

      1. RHAN 1

        dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru

      2. RHAN 2

        dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

      3. RHAN 3

        Gofynion a meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

    4. ATODLEN 4

      Gofynion datblygu a photelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon

    5. ATODLEN 5

      Manylion anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

    6. ATODLEN 6

      Mwyafswm terfynau ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

    7. ATODLEN 7

      Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi'r ansoddau yn Atodlen 6

    8. ATODLEN 8

      Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf i'w defnyddio

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy (2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]