Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3164 (Cy.275)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

O ran Cymru, Gweinidogion Cymru(1) yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(2)(e) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983(2), a thrwy arfer y pwerau hynny maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran pob datganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch cytundeb—

(a) i osod cartref symudol(3) ar safle gwarchodedig(4), a

(b) y bydd Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn gymwys iddo.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983;

ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw'r datganiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol gan adran 1(2) o Ddeddf 1983 i berchennog safle gwarchodedig ei roi i'r darpar feddiannydd.

Datganiad ysgrifenedig: gofynion rhagnodedig

3.  Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983); yw—

(a) bod rhaid iddo gynnwys—

(i) y nodyn sy'n rhagflaenu Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, a

(ii) y manylion a grybwyllir yn Rhan 1 o'r Atodlen honno (i'r graddau nad ydynt yn ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983) a Rhannau 2 a 4 o'r Atodlen honno; a

(b) y bydd yn y ffurf a geir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.

Dirymu

4.  Dirymir Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983(5) o ran Cymru.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007

Rheoliad 3

YR ATODLEN DATGANIAD YSGRIFENEDIG O DAN DDEDDF CARTREFI SYMUDOL 1983

PWYSIG — DARLLENWCH Y DATGANIAD HWN YN OFALUS A'I GADW MEWN MAN DIOGEL. MAE'N GOSOD Y TELERAU Y BYDD GENNYCH YR HAWL I GADW'CH CARTREFI SYMUDOL AR Y SAFLE ARNYNT AC YN DWEUD WRTHYCH AM YR HAWLIAU A RODDIR I CHI YN ÔL Y GYFRAITH. OS OES UNRHYW BETH NAD YDYCH YN EI DDEALL DYLECH GEISIO CYNGOR (ER ENGHRAIFFT GAN GYFREITHIWR NEU O GANOLFAN CYNGOR AR BOPETH)

RHAN 1 Darpariaethau Rhagarweiniol a Thelerau Datganedig (ac eithrio'r rhai hynny a bennir yn Rhan 5)

RHAN 2 Gwybodaeth ynglyn â'ch hawliau

Deddf Cartrefi Symudol 1983

1.  Gan y bydd gennych gytundeb â pherchennog safle fydd yn rhoi'r hawl i chi gadw'ch cartref symudol ar ei safle ac i fyw ynddo fel eich cartref, bydd gennych hawliau penodol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, yn effeithio'n enwedig ar ddiogelwch eich tenantiaeth, gwerthu'ch cartref a'r adolygiad o ffi'r llain.

Telerau goblygedig

2.  Bydd yr hawliau hyn, sydd wedi'u cynnwys yn y telerau goblygedig a osodir yn Rhan 3 o'r datganiad hwn, yn gymwys yn awtomatig ac ni ellir eu diystyru, cyhyd â bod eich cytundeb yn parhau i fod yn un y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo.

Telerau datganedig

3.  Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw un neu fwy o delerau eich cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) dylech eu trafod â'r perchennog, a ddichon gytuno i'w newid.

Yr hawl i herio

4.  Os gwnewch y cytundeb ac yna eich bod yn anfodlon â'r telerau datganedig ynddo gellwch eu herio yn y modd a eglurir ym mharagraff 5. Ond rhaid i chi wneud hynny o fewn chwe mis i'r dyddiad y gwnaethoch y cytundeb neu i'r dyddiad y cawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'un bynnag yw'r diweddaraf. Os ydych yn dymuno herio'ch cytundeb, efallai y byddech am ymgynghori â chyfreithiwr neu â chanolfan cyngor ar bopeth.

5.  Gellir gwneud her naill ai yn y llys sirol neu gerbron cymrodeddwr. Gellwch—

(a) gofyn i unrhyw delerau datganedig yn y cytundeb (y rheini a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) gael eu newid neu eu dileu; neu

(b) gofyn i delerau pellach gael eu cynnwys yn y cytundeb ynghylch y materion a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (gweler paragraff 8).

Gall perchennog y safle hefyd fynd i'r llys neu at gymrodeddwr i ofyn i'r cytundeb gael ei newid yn y ddwy ffordd hyn.

6.  Fe all y bydd un o delerau datganedig y cytundeb yn darparu ar gyfer penodi cymrodeddwr. Oni fydd felly, mae modd o hyd i chi a pherchennog y safle gytuno yn ysgrifenedig i benodi cymrodeddwr i setlo anghydfod rhyngoch.

7.  Rhaid i'r llys neu'r cymrodeddwr wneud gorchymyn ar delerau a ystyrir ganddo ef yn deg ac yn ecwitïol yn yr amgylchiadau.

Telerau pellach

8.  Dyma'r materion a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983—

(a) y symiau sy'n daladwy gan y meddiannydd yn unol â'r cytundeb, ac ar ba adegau y maent i'w talu;

(b) yr adolygiad cyfnodol blynyddol o'r symiau taladwy hyn;

(c) darparu neu wella'r gwasanaethau sydd ar gael ar y safle gwarchodedig, a defnydd y meddiannydd ohonynt; ac

(ch) cadwraeth amwynder y safle gwarchodedig.

Terfyn amser

9.  Os nad oes cais wedi ei wneud i'r llys neu i gymrodeddwr o fewn chwe mis o'r dyddiad pan wnaethoch y cytundeb neu o'r dyddiad pan gawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'run bynnag yw'r diweddaraf, byddwch chi a pherchennog y safle wedi ymrwymo i delerau'r cytundeb ac ni fydd modd eu newid oni bai bod y ddau ohonoch yn cytuno.

Telerau annheg

10.  Os ydych yn ystyried fod unrhyw un o delerau'r cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) yn annheg, gellwch, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr 1999(6), wneud cwyn i'r Swyddfa Masnachu Teg neu unrhyw gorff cymwys(7).

(1)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

1983 p.34. Amnewidiwyd adran 1 gan adran 206(1) o Ddeddf Tai 2004 (p.34). O ran Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod gwladol priodol; gweler y diffiniad o “the appropriate national authority” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983, fel y'i diwygiwyd gan adran 206(3) o Ddeddf 2004. Back [2]

(3)

Am y diffiniad o “mobile homegweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Back [3]

(4)

Am y diffiniad o “protected sitegweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Back [4]

(5)

O.S. 1983/749. Back [5]

(6)

O.S. 1999/2083. Back [6]

(7)

Am y diffiniad o “qualifying body” gweler O.S. 1999/2083. Back [7]

Amended by correction slip on 01 January 2008