(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 5 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (“Deddf 1998”) yn rhoi i awdurdodau cyhoeddus penodol (“yr awdurdodau cyfrifol”) mewn ardaloedd llywodraeth leol swyddogaethau sy'n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Gyda'i gilydd yr enw ar yr awdurdodau hyn yng Nghymru yw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDCau). Mae adran 6 o Ddeddf 1998 yn gosod rhwymedigaethau ar y PDCau i lunio a gweithredu strategaeth i leihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach o ran llunio a gweithredu'r strategaeth i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod yn rhaid i'r PDCau ffurfio grwp strategaeth. Rôl y grwp strategaeth fydd paratoi asesiad strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9. Dadansoddiad yw'r asesiad strategol o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal a'r blaenoriaethau y dylai'r PDCau eu mabwysiadu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'r cynllun partneriaeth yn gosod strategaeth ar gyfer bodloni'r blaenoriaethau hynny a sut y dylai'r PDCau weithredu'r strategaeth honno.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaethau i hwyluso rhannu gwybodaeth yn y PDCau ac i sicrhau bod y PDCau wrth baratoi asesiad strategol a chynllun partneriaeth yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Cynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Margaret Hanson, Llywodraeth Cynulliad Cymru; ffôn 01685 72 9086; e-bost: Margaret.Hanson@Wales.gsi.gov.uk.