Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli yn bennaf (gyda diwygiadau):

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir 2001 (OS 2001/2682 (Cy.223));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 (OS 2002/1898 (Cy. 199));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 (OS 2003/1726 (Cy.189)); ac

Adran 7 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(13).

Diddymir y ddeddfwriaeth uchod yr un pryd ag y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu deddfwriaeth Gymunedol a weithredwyd yn flaenorol gan y tair set o Reoliadau y cyfeirir atynt uchod (OS 2001/2682 (Cy.223); 2002/1898 (Cy.199) a 2003/1726 (Cy.189)). Y rhannau o ddeddfwriaeth Gymunedol y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu yw—

Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio(14);

Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy(15);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu lloi(16), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(17) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(18); a

Chyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch(19), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC(20) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2001/93/EC(21).

Mae'r Rheoliadau hyn (a'r ddeddfwriaeth Gymunedol a weithredir ganddynt) yn adlewyrchu'r rhwymedigaethau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 10 Mawrth 1976 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 98), o'i ddarllen ynghyd â'r Protocol Diwygio i'r Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 6 Chwefror 1992 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 145).

Gwneir y Rheoliadau o dan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(22) ac maent yn gymwys i bob anifail a gedwir at ddibenion ffermio, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol a nodir yn rheoliad 3(2).

Mae rheoliad 4(1) yn pennu'r egwyddor gyffredinol bod rhaid i bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir gymryd camau rhesymol i sicrhau y cedwir yr anifeiliaid mewn amodau sy'n cydymffurfio ag Atodlen 1. Mae'r egwyddor hon yn gymwys i'r holl anifeiliaid asgwrn cefn (ac eithrio dyn) sy'n cael eu bridio neu eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond nid yw hyn yn cynnwys pysgod, ymlusgiaid nac amffibiaid.

Mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail ar sail barhaol neu dros dro, person sydd ag anifail o dan ei ofal, perchennog anifail a pherson sy'n gyfrifol am blentyn o dan 16 mlwydd oed sy'n ymgymryd â gofal gwirioneddol neu reolaeth wirioneddol dros yr anifail.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer yr amodau y mae'n rhaid cadw pob anifail a ffermir ynddynt (rheoliad 4(1) ac Atodlen 1), ac ar gyfer amodau ychwanegol penodol sy'n gymwys i'r anifeiliaid canlynol a ffermir—

  • ieir dodwy mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir dodwy, a gedwir mewn—

    • systemau di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 2);

    • cewyll confensiynol (batri) (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 3);

    • cewyll gwell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 4);

    • pob system cewyll a di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 5);

  • ieir dodwy, p'un ai mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir ai peidio (rheoliad 5(1)(a));

  • lloi (rheoliad 5(1)(c) ac Atodlen 6);

  • gwartheg (rheoliad 5(1)(ch) ac Atodlen 7);

  • moch (rheoliad 5(1)(d) ac Atodlen 8); a

  • chwningod (rheoliad 5(1)(dd) ac Atodlen 9).

Ni chaniateir adeiladu systemau cewyll confensiynol newydd na chewyll batri newydd na'u defnyddio am y tro cyntaf (paragraff 8 o Atodlen 3), a gwaherddir hwy ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012 (paragraff 9 o Atodlen 3).

Mae rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir, i fod yn gyfarwydd â chodau ymarfer ac i sicrhau bod y codau ar gael iddynt tra'n gofalu am anifeiliaid, ac i sicrhau bod gan gyflogeion hefyd yr un wybodaeth a modd i gyrchu'r wybodaeth honno.

Mae rheoliad 7(a) yn ei gwneud yn dramgwydd i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, beidio â chydymffurfio â naill ai'r ddyletswydd gyffredinol i gydymffurfio ag Atodlen 1 neu ag unrhyw un o'r dyletswyddau ychwanegol i gydymffurfio ag Atodlenni 2 i 9 fel y bo'n gymwys. Mae'r rheoliad hefyd yn creu tramgwydd pan na chyflawnir unrhyw un o'r dyletswyddau yn rheoliad 6 mewn perthynas â chodau ymarfer.

Cyflawnir tramgwydd o dan reoliad 7(b) os gwneir cofnod ffug neu os rhoddir gwybodaeth ffug.

Y gosb uchaf am dramgwydd o dan reoliad 7(a) neu (b) carchariad am 6 mis a/neu ddirwy ar lefel 4 o'r raddfa safonol (sef £2,500 ar hyn o bryd). Pan ddaw adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(23) i rym, bydd y cyfnod hwyaf yn y carchar yn cynyddu i 51 wythnos.

Mae arfarniad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau ohono o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(13)

1968 p. 34. Back [13]

(14)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23 Back [14]

(15)

OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53 Back [15]

(16)

OJ Rhif L340. 11.12.91, t 28 Back [16]

(17)

OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24 Back [17]

(18)

OJ Rhif L76, 24.2.97, t 30 Back [18]

(19)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33 Back [19]

(20)

OJ Rhif L316, 1.12.2001 Back [20]

(21)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36 Back [21]