Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Baeddod

19.  Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod fel y gall y baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.

20.  Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.

21.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd fod yn 6 m2.

(2) Pan ddefnyddir corlannau baeddod hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.

RHAN 4 Hychod a Banwesod

22.  Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.

Porchella

23.  Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.

24.  Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.

25.  Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.

26.  Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.

Lletya mewn grwpiau

27.  Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).

28.  Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.

29.  Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.

30.  Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.

31.  Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.

32.  Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.

33.  Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.

RHAN 5 Perchyll

34.  Pan ddefnyddir system crât porchella, rhaid darparu ffynhonnell gwres a man gorwedd solet, sych a chysurus i'r perchyll, i ffwrdd oddi wrth yr hwch lle gall pob un ohonynt orffwys ar yr un pryd.

35.  Rhaid i ran o arwynebedd y llawr lle cedwir y perchyll, ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd ar yr un pryd, fod yn solet neu wedi ei gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu ddeunydd addas arall.

36.  Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno yn ddidrafferth.

37.  Yn ddarostyngedig i baragraff 38, rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn iau nag 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn andwyol i les neu iechyd yr hwch neu'r perchyll.

38.  Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—

(a) sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a

(b) sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.

RHAN 6 Perchyll diddwyn a moch magu

39.  Cyn gynted ag y bo modd ar ôl diddyfnu, rhaid cadw perchyll diddwyn a moch magu mewn grwpiau sefydlog, gyda chyn lleied ag y bo modd o gymysgu.

40.  Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd —

(a) dylid gwneud hynny os yn bosibl cyn diddyfnu neu cyn pen un wythnos ar ôl diddyfnu neu, fel arall, pan fo'r moch mor ifanc ag y bo modd; a

(b) rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.

41.  Rhaid i'r arfer o ddefnyddio meddyginiaeth tawelu i hwyluso cymysgu gael ei gyfyngu i amodau eithriadol, a hynny yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg.

42.  Os oes arwyddion o ymladd difrifol, rhaid ymchwilio i'r achosion ar unwaith a chymryd camau priodol.

43.  Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a gedwir mewn grwp fod o leiaf yn—

(a) 0.15 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn 10 kg neu lai;

(b) 0.20 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 10 kg, ond yn llai na neu'n hafal i 20 kg;

(c) 0.30 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 20 kg ond yn llai na neu'n hafal i 30 kg;

(ch) 0.40 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 30 kg ond yn llai na neu'n hafal i 50 kg;

(d) 0.55 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 50 kg ond yn llai na neu'n hafal i 85 kg;

(dd) 0.65 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 85 kg ond yn llai na neu'n hafal i 110 kg; ac

(e) 1.00 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 110 kg.

Rheoliad 5

ATODLEN 9 Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw cwningod

1.  Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—

(a) bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a

(b) o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.

2.  Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.