Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 5

ATODLEN 7 Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw gwartheg

1.  Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu'n bwrw lloi mewn adeilad, rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac sy'n cynnwys gwasarn.

2.  Rhaid i gorlan neu fuarth mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg sy'n bwrw lloi fod o faint sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwartheg

3.  Rhaid i wartheg sy'n bwrw lloi ac a gedwir mewn adeilad gael eu cadw ar wahân i dda byw eraill, ac eithrio gwartheg sy'n bwrw lloi.

Rheoliad 5

ATODLEN 8 Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch

RHAN 1 Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “baedd” (“boar”) yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;

ystyr “banwes” (“gilt”) yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;

ystyr “hwch” (“sow”) yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella y tro cyntaf;

ystyr “mochyn magu” (“rearing pig”) yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;

ystyr “porchell” (“piglet”) yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac

ystyr “porchell diddwyn” (“weaner”) yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at ddeng wythnos oed.

RHAN 2 Amodau ychwanegol cyffredinol

Archwilio

2.  Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Tenynnau

3.  Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

4.—(1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2) Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Llety

5.—(1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —

(a) sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;

(b) cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;

(c) gweld moch eraill, ac eithrio—

(i) pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu

(ii) yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;

(ch) cynnal tymheredd cysurus; a

(d) cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.

6.—(1) Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.

(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—

(a) tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;

(b) at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;

(c) tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;

(ch) at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;

(d) tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu

(dd) tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.

Adeiladau â golau artiffisial

7.  Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.

Atal ymladd

8.—(1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.

(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.

Glanhau a diheintio

9.—(1) Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Gwasarn

10.  Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.

Lloriau

11.  Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—

(a) fod yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b) gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c) fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac

(ch) os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

12.—(1) Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —

(a) 11 mm ar gyfer perchyll;

(b) 14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;

(c) 18 mm ar gyfer moch magu; ac

(ch) 20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.

(2) Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—

(a) 50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a

(b) 80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.

Bwydo

13.—(1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.

(2) Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Dwr yfed

14.  Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.

Gwella'r amgylchedd

15.  Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.

Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysu

16.  Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).

Lefelau swn

17.  Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.

18.  Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.