Rheoliad 5
1. Rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2. Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy—
(a) naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10cm i bob aderyn neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4cm i bob aderyn;
(b) naill ai cafn yfed di-dor sy'n rhoi o leiaf 2.5cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi o leiaf 1cm i bob iâr;
(c) o leiaf un nyth i bob saith iâr ac, os defnyddir nythod grwp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;
(ch) clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n darparu o leiaf 15cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20cm o leiaf; a
(d) o leiaf 250 cm2 o arwynebedd o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros un traean o leiaf o arwynebedd y llawr.
3. Pan fo'r system yn defnyddio pigynnau dwr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dwr neu gwpan i bob 10 iâr.
4. Pan fo gan y system fannau yfed sydd wedi eu plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dwr o fewn cyrraedd i bob iâr.
5. Rhaid i loriau'r gosodiadau fod wedi eu hadeiladu fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau iâr sy'n wynebu ymlaen, ar bob troed i bob iâr.
6. Os defnyddir systemau lle y gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau —
(a) rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;
(b) rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;
(c) rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; ac
(ch) rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal ysgarthion rhag cwympo ar y lefelau islaw.
7. Os gall ieir dodwy fynd i libart agored —
(a) rhaid cael nifer o dyllau, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led, yn arwain yn uniongyrchol i'r man allanol ac yn ymestyn am y cyfan o hyd yr adeilad; a rhaid sicrhau beth bynnag bod cyfanswm o 2 m o agoriad ar gael ar gyfer pob grwp o 1,000 o ieir; a
(b) rhaid i libartau agored —
(i) fod ag arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi; a
(ii) wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.
8. Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob m2 o le y gellir ei ddefnyddio.
9. Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn gweithredu system lle'r oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a'r sefydliad yn dal i weithredu'r system honno ar 25 Mehefin 2002, awdurdodir dwysedd stocio o ddim mwy na 12 iâr am bob m2 tan 31 Rhagfyr 2011.
Rheoliad 5
1. Rhaid i bob system cewyll confensiynol (heb eu gwella) gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2. Rhaid i systemau cewyll gael o leiaf 550 cm2 i bob iâr, o arwynebedd cawell a fesurir mewn plân llorweddol ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad, sef yn benodol, heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff, sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, oni osodir hwy heb gyfyngu ar yr arwynebedd y gall yr ieir ei ddefnyddio.
3. Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad a rhaid i'w hyd fod o leiaf yn lluoswm 10 cm a nifer yr ieir sydd yn y cawell.
4.—(1) Oni ddarperir pigynnau yfed neu gwpanau yfed rhaid i bob cawell gael sianel yfed ddi-dor o'r un hyd â'r cafn bwydo y cyfeirir ato ym mharagraff 3.
(2) Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell.
5. Rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt; cyfrifir yr arwynebedd trwy luosi 550 cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell.
6.—(1) Rhaid i loriau'r cewyll fod wedi ei hadeiladu fel eu bod yn cynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr.
(2) Rhaid i oleddf y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.
7. Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
8. Ni chaniateir i unrhyw berson adeiladu neu ddechrau defnyddio am y tro cyntaf unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon ar gyfer cadw ieir dodwy.
9. Ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012, ni chaniateir i unrhyw berson gadw ieir dodwy mewn unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon.
Rheoliad 5
1. Rhaid i'r holl ieir dodwy nas cedwir mewn system ddi-gawell y cyfeirir ati yn Atodlen 2 neu mewn system cewyll y cyfeirir ati yn Atodlen 3 gael eu cadw mewn system cewyll gwell sy'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2. Rhaid i ieir dodwy gael—
(a) o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono fod yn arwynebedd y gellir ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben yr arwynebedd y gellir ei ddefnyddio, fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt, a rhaid i'r cyfanswm arwynebedd lleiaf mewn unrhyw gawell fod yn 2000 cm2;
(b) mynediad i nyth;
(c) llaesodr fel bod modd pigo a chrafu;
(ch) clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.
3. Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad ac sydd â'i hyd o leiaf yn lluoswm 12 cm a nifer yr ieir yn y cawell.
4. Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grwp; os darperir pigynnau dwr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob iâr.
5. Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu gofod o 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a'r haen isaf o gewyll.
6. Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.