Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 2 Adnewyddu ac adolygu cytundeb partneriaeth

Tabl

Colofn 1 Colofn 2
Mae'r Prif Arolygydd wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod addysg lleol a Gweinidogion Cymru o dan adran 37(2) (Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder) o Ddeddf 2005. Dyddiad yr hysbysiad.
Mae awdurdod addysg lleol o dan adran 16(1) (Pŵer AALl i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 1998 yn penodi nifer y llywodraethwyr ychwanegol y mae'n barnu ei bod yn addas. Dyddiad y penodiad neu'r penodiadau.
Mae Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 19(1)(19) (Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo cau ysgol) o Ddeddf 1998 i awdurdod addysg lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol gael ei chau. Dyddiad y cyfarwyddyd.
Mae Gweinidogion Cymru o dan adran 113A(5A)(a) (Ailstrwythuro addysg chweched dosbarth) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(20) yn cadarnhau, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, cynigion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 113A(4) (b) ac (c) o'r Ddeddf honno. Dyddiad y gymeradwyaeth.
Mae Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(21) (Cymeradwyo cynigion aildrefnu ysgolion) o Atodlen 6 (Cynigion statudol: gweithdrefn a gweithrediad) i Ddeddf 1998 yn cymeradwyo cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28(22) (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31(23) (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 i wneud unrhyw un o'r newidiadau a geir ym mharagraffau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Atodlen 2 (Newidiadau y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(24) a pharagraffau 1, 2, 3 a 4 o Atodlen 2A (Newidiadau i ysgolion meithrin y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) o'r rheoliadau hynny o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod. Dyddiad y dyfarniad.
Pan, o dan baragraff 8 o Atodlen 6 (Cymeradwyo cynigion aildrefnu ysgol) i Ddeddf 1998 na fo cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru yn ofynnol, mae awdurdod addysg lleol corff llywodraethu ysgol wedi dyfarnu y dylid gweithredu'r cynigion os cyhoeddwyd y cynigion o dan adrannau 28 (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31 (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol gymunedol arbennig, neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 i wneud unrhyw un o'r newidiadau a geir ym mharagraffau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Atodlen 2 (Newidiadau y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 a pharagraffau 1, 2, 3 a 4 o Atodlen 2A (Newidiadau i ysgolion meithrin y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) o'r rheoliadau hynny o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. Dyddiad y mabwysiad neu'r gymeradwyaeth.
Mae Gweinidogion Cymru o dan baragraff 14(25) o Atodlen 7 (Mabwysiadu cynigion gan Weinidogion Cymru) i Ddeddf 1998 yn mabwysiadu neu'n cymeradwyo cynigion sy'n effeithio ar ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. Dyddiad y gymeradwyaeth.
Mae Gweinidogion Cymru o dan adrannau 28 (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31 (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 a pharagraff 8 (Cymeradwyo cynigion) o Atodlen 6 (Gweithdrefn a gweithrediad ar gyfer cynigion statudol) i'r Ddeddf honno, fel y'i haddaswyd gan Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(26) yn cymeradwyo cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 2 (Gweithdrefn ar gyfer newid categori ysgol) neu 3 (Cyhoeddi gorfodol y cynigion i ysgol wirfoddol a gynhelir newid categori) o Atodlen 8 (Newidiadau i gategori ysgol) i Ddeddf 1998. Dyddiad y gymeradwyaeth.
Mae awdurdod addysg lleol, o dan adran 51 (Atal dros dro ddirprwyo ariannol oherwydd camreoli etc) o Ddeddf 1998 a pharagraff 1 o Atodlen 15(27) iddi (Atal dros dro ddirprwyo ariannol oherwydd camreoli etc.) yn rhoi i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo hysbysiad o'r atal dros dro o hawl y corff llywodraethu i gyllideb ddirprwyedig. Dyddiad yr hysbysiad.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar bob awdurdod addysg lleol yng Nghymru o ran pob ysgol a gynhelir ganddynt gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, ond ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff llywodraethu'r cyfryw ysgolion.

O dan y Rheoliadau hyn, mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud cytundebau partneriaeth unigol â chyrff llywodraethu'r cyfryw ysgolion. Pan fo awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu yn methu â dod i gytundeb, mae adran 197(3) o Ddeddf Addysg 2002 yn caniatáu i'r awdurdod addysg lleol lunio datganiad mewn perthynas â'r ysgol honno.

Rhaid i unrhyw gytundeb partneriaeth neu ddatganiad nodi sut y mae'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol i gyflawni eu priod swyddogaethau mewn perthynas â materion penodol a bennir ac a nodir yn y Rheoliadau hyn.

Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer adolygu cytundeb partneriaeth neu ddatganiad ar adegau gosodedig neu o dan amgylchiadau rhagnodedig.

(19)

Amnewidiwyd adran 19(1) gan adran 45 o Ddeddf 2005. Back [19]

(20)

2000 p.21. Mewnosodwyd adran 113A gan adran 2 o Ddeddf 2002. Back [20]

(21)

Diddymwyd paragraff 8(4) gan Atodlen 5, Rhan 1 o Ddeddf Plant 2004 p.31. Back [21]

(22)

Diwygiwyd adran 28(2) gan Atodlen 19, rhan 2 o Ddeddf 2002. Mewnosodwyd adrannau 28(2A) a (2B) gan adrannau 64(1) a (3) o Ddeddf 2005. Back [22]

(23)

Amnewidiwyd adran 31(4) gan adran 31(4A) i (4C) gan adran 71 o Ddeddf 2005. Back [23]

(24)

O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91). Back [24]

(25)

Diwygiwyd paragraff 14 gan adran 72 o Ddeddf 2005. Back [25]

(26)

O.S. 2001/2678 (Cy.219), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2916 (Cy.213). Back [26]

(27)

Diwygiwyd paragraff 1 gan Atodlen 3, paragraff 5 o Ddeddf 2002. Back [27]