Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3066 (Cy.263)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2007

Gwnaed

23 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Hydref 2007

Yn dod i rym

12 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 197, 210 a 214 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd(2) bellach ynddynt yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 12 Rhagfyr 2007.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr “amgylchiadau perthnasol” (“relevant circumstances”) yw'r amgylchiadau a nodir yng Ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2;

ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad a lunnir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 197(3) o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4);

ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2005” (“2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(5);

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad a nodir yn y cofnod sy'n cyfateb i bob amgylchiad perthnasol yng Ngholofn 2 o'r Tabl a nodir yn Atodlen 2; ac

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad neu Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Cytundebau partneriaeth

4.  Yn ddarostyngedig i adran 197(3) o Ddeddf 2002, rhaid i awdurdod addysg lleol wneud cytundeb partneriaeth gyda chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.

5.  Rhaid i gytundeb partneriaeth nodi sut y mae'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol i gyflawni eu priod swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol o ran y materion a nodir yn Adran 1.

6.  Rhaid i'r cytundeb partneriaeth cyntaf gael ei wneud ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny.

7.  Os na wnaed cytundeb partneriaeth ac os na luniwyd datganiad o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny neu ar 1 Medi neu cyn hynny mewn unrhyw flwyddyn olynol, rhaid gwneud cytundeb partneriaeth wedi hynny o ran yr ysgol honno ar 1 Medi neu cyn hynny yn y flwyddyn ganlynol.

Adolygu cytundebau partneriaeth a datganiadau

8.  Rhaid i'r partïon i gytundeb partneriaeth adolygu'r cytundeb partneriaeth a chânt ei ddiwygio—

(a) cyn pen y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan wnaed y cytundeb gyntaf; a

(b) ar ôl hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.

9.  Pan fo awdurdod addysg lleol wedi llunio datganiad rhaid iddo ei adolygu a chaiff ei ddiwygio –

(a) cyn pen cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan anfonwyd y datganiad gyntaf i'r corff llywodraethu; a

(b) ar ôl hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.

10.  Yn ddarostyngedig i reoliad 11, pan fo amgylchiadau perthnasol yn codi o ran ysgol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu'r ysgol adolygu unrhyw gytundeb partneriaeth neu ddatganiad sydd yn bodoli eisoes, a chânt ei ddiwygio, cyn pen y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad perthnasol.

11.  Pan fo amgylchiadau perthnasol pellach yn codi o ran ysgol cyn i adolygiad o gytundeb partneriaeth neu ddatganiad o dan reoliad 10 gael ei gwblhau, nid yw'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu ond dod ag un adolygiad i ben y mae'n rhaid ei gwblhau cyn pen blwyddyn ar ôl y dyddiad perthnasol o ran y diweddaraf o'r amgylchiadau perthnasol a gododd, sef y dyddiad sydd hefyd yn ddyddiad perthnasol at ddibenion rheoliadau 12 a 13.

12.  Pan, ar ôl i gytundeb partneriaeth gael ei adolygu o dan reoliad 10,

(a) na fo cytundeb partneriaeth diwygiedig i'w wneud, a

(b) na fo datganiad i'w lunio,

mae'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu adolygu'r cytundeb partneriaeth nesaf, a chânt ei ddiwygio, cyn pen y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar ôl y dyddiad perthnasol ac wedi hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.

13.  Pan, ar ôl i ddatganiad gael ei adolygu o dan reoliad 10,

(a) na fo cytundeb partneriaeth i gael ei wneud, a

(b) na fo datganiad diwygiedig i'w lunio,

mae'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu adolygu'r datganiad nesaf, a chânt ei ddiwygio, cyn pen cyfnod o bedair blynedd cyn y dyddiad perthnasol ac wedi hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ac un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007

Rheoliad 5

ATODLEN 1 Cynnwys cytundeb partneriaeth

Rhaid i gytundeb partneriaeth nodi sut y mae'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol i gyflawni eu priod swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol o ran y materion a nodir isod:

1.  Mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol—

(a) arfer gan awdurdod addysg lleol ei swyddogaethau o dan adran 13A (Dyletswydd i hybu safonau uchel mewn addysg gynradd ac uwchradd) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â'r cymorth a rydd yr awdurdod addysg lleol i'r corff llywodraethu pan–

(i) fo'r awdurdod addysg lleol wedi arfer ei bwerau o dan adrannau 14(6) (Pwerau ymyrryd sy'n arferadwy gan AALl), 15(7) (Achosion pan gaiff AALl arfer pwerau ymyrryd), 16(8) (Pwerau AALl i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a 17(9) (Pŵer AALl i atal dros dro yr hawl i gyllideb ddirprwyedig) o Ddeddf 1998; neu

(ii) yn sgil arolygiad o'r ysgol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005, mae'r Prif Arolygydd wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru a'r awdurdod addysg lleol o dan adran 37(2) (Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder) mewn achos sy'n dod o fewn is-adran 1(a) neu (b);

(b) darparu hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22 (Hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr);

(c) darparu adroddiadau yn rheolaidd gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 30(3)(10) (Adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall) o Ddeddf 2002;

(ch) arfer gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu o swyddogaethau o dan adrannau 2 (Dyletswyddau cyffredinol cyflogwyr at eu cyflogeion), 3 (Dyletswyddau cyffredinol cyflogwyr a phobl hunangyflogedig at bersonau nad ydynt yn gyflogeion iddynt) a 4 (Dyletswyddau cyffredinol personau sy'n ymwneud â mangreoedd i bersonau nad ydynt yn gyflogeion iddynt) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(11);

(d) arfer gan awdurdod addysg lleol ei bwerau ymyrryd o dan adrannau 14 (Pwerau ymyrryd sy'n arferadwy gan AALl), 15 (Achosion pan gaiff AALl arfer pwerau ymyrryd), a 16 (Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 1998;

(dd) arfer gan gorff llywodraethu ei swyddogaethau o dan adran 40(2) (Datganiad i'w baratoi gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf 2005;

(e) arfer gan yr awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol eu priod swyddogaethau o dan adran 40 (Rheoli mangreoedd ysgol) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 13 iddi (Rheoli mangreoedd ysgol gan gyrff llywodraethu) o ran rheoli mangreoedd ysgol;

(f) arfer gan y corff llywodraethu ei bwerau o dan adran 27(12) (Pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol etc.) o Ddeddf 2002.

2.  O ran ysgol sy'n darparu addysg gynradd–

(a) arfer gan awdurdod addysg lleol ei swyddogaethau o dan adran 13A (Dyletswydd i hybu safonau uchel mewn addysg gynradd ac uwchradd) o Ddeddf 1996 ac arfer gan gorff llywodraethu ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2) (Cynlluniau Pontio) o Reoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006(13)o ran datblygu trosglwyddo addysgol effeithiol ar gyfer disgyblion o'r ail gyfnod allweddol i'r trydydd cyfnod allweddol;

(b) gosod gan awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliadau 3 a 4 (Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi cynllun addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraff 7(2)(a) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006(14);

(c) sefydlu gan gorff llywodraethu dargedau o dan reoliad 4 (Targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol) o Reoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 1999(15).

3.  O ran ysgol sy'n darparu addysg uwchradd–

(a) Arfer gan awdurdod addysg lleol ei swyddogaethau o dan adran 13A (Dyletswydd i hybu safonau uchel mewn addysg gynradd ac uwchradd) o Ddeddf 1996 ac arfer gan gorff llywodraethu ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2) (Cynlluniau Pontio) o Reoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 mewn perthynas â datblygu trosglwyddo addysgol effeithiol ar gyfer disgyblion o'r ail gyfnod allweddol i'r trydydd cyfnod allweddol ac o'r trydydd cyfnod allweddol i'r pedwerydd cyfnod allweddol;

(b) gosod gan gorff llywodraethu dargedau o dan reoliad 7 (Targedau absenoldeb) o Reoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 1999(16);

(c) sefydlu gan awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliadau 3 a 4 (Paratoi a chyhoeddi cynlluniau addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraff 7(2)(a) i (dd) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006.

4.  O ran ysgol sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol a leolir mewn ysbyty, gosod gan yr awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliadau 3 a 4 (Paratoi a chyhoeddi cynlluniau addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraffau 3 a 4 (Materion i ymdrin â hwy mewn cynlluniau addysg sengl) a Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006.

5.  Mewn perthynas ag ysgol sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw ysgol a leolir mewn ysbyty, gosod gan awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliad 3 (Paratoi a chyhoeddi cynlluniau addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraff 2 (Materion i ymdrin â hwy mewn cynlluniau addysg sengl) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006.

6.  Mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, dyletswydd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22(5)(17) (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol wirfoddol a gynorthwyir) o Ddeddf 1998 i dalu holl dreuliau cynnal yr ysgol ac eithrio unrhyw dreuliau sydd yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 3 (Cyllido ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 yn daladwy gan y corff llywodraethu.

7.  Mewn perthynas ag ysgol nad yw'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, dyletswydd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22(3) (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir) neu adran 22(4)(18) (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig sefydledig) fel y bo'n briodol, o Ddeddf 1998, i dalu holl dreuliau cynnal yr ysgol.

(1)

2002 p.32. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

1996 p.56. . Back [3]

(4)

1998 p.31. Back [4]

(5)

2005 p.18. Back [5]

(6)

Diwygiwyd adran 14(1)(b) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (2) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 14(1A) gan Atodlen 21, paragraff 92 o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 14(3) gan Atodlen 5, paragraff 1 o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 14(3) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (2) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 14(4) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (3) o Ddeddf 2005. Back [6]

(7)

Amnewidiwyd adran 15(4) gan Atodlen 9, paragraffau 15(1) a (2) o Ddeddf 2005. Diddymwyd adran 15(5) gan Atodlen 123, paragraffau 15(1) a (3) ac Atodlen 19, Rhan 1 o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 15(6) gan Atodlen 9, paragraffau 15(1) a (4) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 15(7) gan Atodlen 9, Paragraffau 1 a 78 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 p.21. Back [7]

(8)

Amnewidiwyd adran 16(3) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(3) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (2)(a) o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 16(3)(a) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (2)(b) o Ddeddf 2005. Diddymwyd adran 16(4) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (3) ac Atodlen 22, Rhan 3 o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(5) gan Atodlen 21, paragraffau 93(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(6)(a) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (4) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(8)(a) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (5)(a) o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 16(8)(b) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (5)(b) o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 16(9) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (6) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(9)(a) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (3) o Ddeddf 2005. Diwygiwyd adran 16(10) gan Atodlen 21, paragraffau 93(1) a (3) o Ddeddf 2002. Mewnosodwyd adran 16(12A) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (7) o Ddeddf 2002. Diddymwyd adran 16(13) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) ac (8) ac Atodlen 22 Rhan 3. Back [8]

(9)

Amnewidiwyd adran 17(3) gan Atodlen 5, paragraffau 3(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 17(3) gan Atodlen 9, paragraff 18(a) o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 17(3)(a) gan Atodlen 9, paragraff 18(b) o Ddeddf 2005. Diwygiwyd adran 17(4) gan Atodlen 5, paragraffau 3(1) a (3) o Ddeddf 2002. Back [9]

(10)

Diwygiwyd gan adran 103(1)(b) o Ddeddf 2005. Back [10]

(11)

1974 p.37. Diddymwyd adran 2(5) gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975, adrannau 116, 125(3), Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 18. Diwygiwyd adran 2(7) gan yr un darpariaethau. Back [11]

(12)

Mewnosodwyd adran 28(4A) a (4B) gan adran 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Back [12]

(13)

O.S. 2006/520 (Cy.64). Back [13]

(14)

O.S. 2006/877 (Cy.82). Back [14]

(15)

O.S. 1999/1811, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253). Back [15]

(16)

Amnewidiwyd rheoliad 7 gan O.S. 2006/125 (Cy.18), rheoliad 2(1)(4). Back [16]

(17)

Diwygiwyd adran 22(5)(a) gan Atodlen 21, paragraffau 96(1) a (4) o Ddeddf 2002. Back [17]

(18)

Diwygiwyd adran 22(4)(b) gan Atodlen 21, paragraff 96(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Back [18]