Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
22 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Hydref 2007
Yn dod i rym
14 Tachwedd 2007
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2007.
2. Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(4) drwy ychwanegu ar ôl rheoliad 3(3) y paragraff canlynol —
“(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu baragraff (3) yn euog o dramgwydd.”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro cyfeiliornad yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 i'w gwneud yn dramgwydd i fethu â rhoi hysbysiad o ddaliad o dan reoliad 3.
Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
1972 p.68. Back [1]
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]
O.S.2003/1246. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [3]
O.S. 2007/842 (W.74). Back [4]