(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003, O.S. 2003/326 (Cy.47) (“Gorchymyn 2003”), sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75 sy'n gosod darpariaethau penodol ar reoli a difa'r tafod glas (y dafod las) (OJ Rhif L327, 22.12.2000, t. 74).
Mae paragraff 1 o'r Atodlen yn diwygio'r diffiniad o “Prif Swyddog Milfeddygol”.
Mae paragraff 2 o'r Atodlen yn diwygio erthygl 8 o Orchymyn 2003 drwy hepgor y darpariaethau sy'n ymwneud â difa, claddu neu waredu carcasau.
Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn mewnosod erthygl newydd 9(1)(d) ynglyn â phwerau cigydda.
Mae paragraff 4 o'r Atodlen yn rhoi erthyglau newydd 10 i 12B am barthau sydd i'w datgan gan Weinidogion Cymru os cadarnheir bod y tafod glas (y dafod las) mewn mangre yng Nghymru yn lle erthyglau 10 i 12 yng Ngorchymyn 2003.
Mae erthygl 10 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau rheoli sydd wedi eu canoli o gwmpas man brigo ac iddynt radiws o 20 cilometr. (Diffinnir y term “man brigo” yn erthygl newydd 10(8)). Caiff Gweinidogion Cymru estyn neu leihau maint parth rheolaeth. Gwaherddir symud anifeiliaid i fangre neu o fangre mewn parth dan reolaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
Mae erthygl newydd 11 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth a ddatgenir gan Weinidogion Cymru. Gwaherddir symud anifeiliaid o barth gwarchod neu o barth gwyliadwriaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
Mae erthygl 12 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â phwerau arolygwyr mewn parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth.
Mae erthygl 12A newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgan parthau rheolaeth, gwarchod neu wyliadwriaeth os bydd y tafod glas (y dafod las) yn brigo yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae erthygl 12B newydd yn cynnwys darpariaethau am ddatgan parthau.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.