Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 30(10) a 31(9)

ATODLEN 5 Dirprwyo swyddogaethau apeliadol

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd o dan reoliad 30(10) neu 31(9) ac ystyr “penodiad” (“appointment”) yw penodiad o dan y naill neu'r llall o'r rheoliadau hynny.

2.  Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a) caiff ymwneud ag unrhyw apêl benodol neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad penodedig;

(b) caiff ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person penodedig naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac

(c) caniateir, drwy hysbysiad a roddir i'r person penodedig, i'r penodiad gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater nas dyfarnwyd gan y person penodedig cyn yr amser hwnnw.

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl y mae ei benodiad yn ymwneud â hi neu unrhyw fater y mae'n ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(6), neu reoliad 31(8), (10), (12) a (13) yn ôl y digwydd.

4.—(1) Mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i apêl o dan reoliad 30 neu 31 sydd i'w dyfarnu gan berson penodedig ac, yn achos apêl o dan reoliad 31, maent yn gymwys yn lle rheoliad 31(7).

(2) Os yw'r apelydd neu Weinidogion Cymru yn hysbysu'r person penodedig eu bod yn dymuno ymddangos gerbron y person penodedig a chael eu clywed ganddo, rhaid i'r person penodedig roi cyfle iddynt wneud hynny.

(3) Hyd yn oed os nad yw'r apelydd na Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gael ymddangos gerbron a chael eu clywed—

(a) caiff y person penodedig—

(i) yn achos apêl o dan reoliad 30, gynnal gwrandawiad yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater, a

(ii) yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater; a

(b) rhaid i'r person penodedig, yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.

(4) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, Gweinidogion Cymru, ac unrhyw bersonau a hysbysodd Weinidogion Cymru eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau o dan reoliad 31(6), o benderfyniad y person penodedig i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol (yn ôl y digwydd).

(5) Os bydd person penodedig yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall o dan yr Atodlen hon, caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i eistedd gyda'r person penodedig i'w gynghori ar unrhyw faterion sy'n codi, er gwaethaf y ffaith mai'r person penodedig sydd i ddyfarnu ar y mater neu'r apêl.

(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 31(10), rhaid i gostau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a gynhelir o dan yr Atodlen hon gael eu talu gan Weinidogion Cymru.

5.—(1) Os caiff penodiad y person penodedig ei ddirymu o dan baragraff 2(c) mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i Weinidogion Cymru, onid ydynt yn bwriadu dyfarnu ar yr apêl neu'r mater eu hunain, benodi person arall o dan reoliad 30(10) neu 31(9) i ddyfarnu ar yr apêl neu'r mater yn eu lle.

(2) Os caiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn cysylltiad ag ef, ddechrau o'r newydd.

(3) Nid oes dim yn is-baragraff (2) sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i gyflwyno sylwadau newydd neu i addasu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.

6.—(1) Mae unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, neu'n gysylltiedig ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, i'w drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—

(a) at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng Gweinidogion Cymru a'r person penodedig ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu

(b) at ddibenion unrhyw achos troseddol a ddygir mewn cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud fel y crybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'n bennaf Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t,40) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd (fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC) (OH Rhif L156, 25.6.03, t.17) (“y Gyfarwyddeb AEA”) mewn perthynas â dau fath o brosiect ym mharagraff 1 o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno: prosiectau i ailstrwythuro daliadau tir gwledig, a phrosiectau i ddefnyddio tir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys.

Maent yn gweithredu hefyd Gyfarwyddeb y Cyngor 1992/43/EEC (OJ Rhif L206, 22.7.1992, p7) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna gwyllt (fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf ynghylch yr amodau ymaelodi i'r Aelod-wladwriaethau newydd) (OJ Rhif L236, 23.9.2003, t. 667-70. Gweler Atodiad II:16. Yr Amgylchedd, C Gwarchod natur) (“y Gyfarwyddeb Cynefinoedd”) i'r graddau y mae'r prosiectau hynny'n effeithio ar safleoedd sy'n cael eu gwarchod gan y Gyfarwyddeb honno.

Mae rheoliad 3 yn nodi'r mathau o brosiectau a eithrir o gwmpas y Rheoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys gweithfeydd a gwmpesir gan gyfundrefnau rheoleiddio cyfatebol sy'n ymdrin â choedwigaeth, prosiectau rheoli dwr a thraenio tir, tynnu gwrych (perthi) ymaith, codi adeiladau a ffensys a gwaith arall ar dir comin, a'r system gynllunio. Mae'r rhoi i Weinidogion Cymru hefyd bwer i eithrio prosiectau penodol o gwmpas y Rheoliadau yn unol â'r Gyfarwyddeb AEA a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Mae rheoliad 4 yn gwahardd unrhyw berson rhag dechrau neu gyflawni prosiect tir heb ei drin oni fydd y person hwnnw wedi cael penderfyniad sgrinio (penderfyniad ynghylch a yw'r prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd). Mae'n gwahardd unrhyw berson rhag dechrau neu gyflawni prosiect ailstrwythuro oni fydd y person hwnnw wedi cael penderfyniad sgrinio i ganiatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen, neu fod maint y prosiect islaw'r trothwy sy'n gymwys iddo. Mae rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn nodi sut i gyfrifo'r trothwy priodol ar gyfer prosiect ailstrwythuro.

Mae rheoliad 6 yn nodi'r hyn y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais am benderfyniad sgrinio, ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.

Mae rheoliad 7 ac Atodlen 2 yn nodi'r ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn gwneud penderfyniad sgrinio, a'r gweithdrefnau ynglyn â phenderfyniad sgrinio. Mae Atodlen 2 wedi'i seilio ar Atodiad III i'r Gyfarwyddeb AEA.

Mae rheoliad 8 yn gwahardd person rhag dechrau neu gyflawni prosiect sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd oni fydd wedi cael cydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyntaf.

Mae rheoliad 9 yn nodi'r weithdrefn y gall Gweinidogion Cymru ei defnyddio i roi i geisydd am gydsyniad farn gwmpasu (barn ar ba wybodaeth y dylid ei darparu mewn datganiad amgylcheddol). Mae rheoliad 10 yn nodi dyletswyddau cyrff ymgynghori y ceisir gwybodaeth oddi wrthynt mewn cysylltiad â barn gwmpasu neu gais am gydsyniad.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i geisiadau am gydsyniad gynnwys datganiad amgylcheddol (o ran y cynnwys, gweler y diffiniad o “datganiad amgylcheddol” ac Atodlen 3), ac yn nodi'r gweithdrefnau ymgynghori ynglyn â'r cais. Mae rheoliad 12 yn nodi gweithdrefnau pellach ynglyn ag unrhyw wybodaeth bellach y mae'n ofynnol i'r ceisydd am gydsyniad ei rhoi.

Mae rheoliadau 13 a 14 yn eu trefn yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall, ac y gallai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru.

Mae rheoliadau 15 ac 16 yn nodi'r ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad cydsynio, gan gynnwys y sefyllfa pan fydd prosiect yn debyg o effeithio ar safle Ewropeaidd, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer amseru penderfyniadau cydsynio.

Mae rheoliad 17 yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu cymhwyso i gydsyniad ac mae rheoliad 18 yn nodi'r gweithdrefnau sy'n dilyn y penderfyniad cydsynio.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth ar y dull o drin prosiectau trawsffiniol.

Mae rheoliad 20 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer sefyllfa pan fo'r tir perthnasol, ar ôl i gydsyniad gael ei roi, yn dod yn safle Ewropeaidd.

Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn dramgwydd i ddechrau neu gyflawni prosiect heb gael penderfyniad sgrinio neu benderfyniad cydsynio (pan fo'r rhain yn ofynnol). Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn dramgwydd i dorri unrhyw un o amodau'r cydsyniad. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn dramgwydd i sicrhau penderfyniad drwy dwyll neu i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau anwir neu gamarweiniol.

Mae rheoliad 24 yn rhoi pwer i Weinidogion Cymru ddyroddi “hysbysiadau stop” yn gwahardd personau rhag parhau â gwaith a ddechreuwyd heb y cydsyniad angenrheidiol. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn dramgwydd i fynd yn groes i hysbysiad stop.

Mae rheoliad 26 yn rhoi pwer i Weinidogion Cymru ddyroddi “hysbysiadau adfer” sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi torri'r Rheoliadau adfer ei dir i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i'r prosiect gael ei ddechrau neu i gyflwr amgylcheddol da neu i'r safon y bydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ei bod yn rhesymol yn yr amgylchiadau. Mae rheoliad 27 yn ei gwneud yn dramgwydd i fethu â chydymffurfio ag hysbysiad adfer heb esgus rhesymol.

Mae rheoliad 28 yn caniatáu i erlyniadau o dan reoliadau 21, 22, 23, 25 a 27 gael eu dwyn o fewn 6 mis i'r dyddiad y daw tystiolaeth ddigonol yn hysbys i'r erlynydd. Ond rhaid dwyn erlyniadau o fewn 2 flynedd i'r dyddiad y cyflawnwyd y tramgwydd.

Mae rheoliad 29 yn darparu pwerau i fynd i mewn ac arolygu sy'n gysylltiedig â gorfodi, ac yn caniatáu i ddogfennau a sbesimenau planhigion a sbesimenau pridd gael eu cymryd. Mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gwaith sy'n ofynnol o dan hysbysiad adfer ac nad yw wedi'i wneud o fewn y cyfnod amser gofynnol, ac i adennill y costau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau, yr eir ar eu tir ac yr arolygir eu tir, gynorthwyo personau awdurdodedig, ac mae'n ei gwneud yn dramgwydd i'w rhwystro neu i'w hatal yn fwriadol neu i fethu â rhoi cymorth iddynt heb esgus rhesymol.

Mae rheoliadau 30 a 31 yn nodi darpariaethau a gweithdrefnau apelio. Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adegau pan fo apelau yn cael eu cynnal gan berson penodedig. Mae rheoliadau 32 a 33 yn eu trefn yn nodi gweithdrefnau pellach ar gyfer apelau drwy sylwadau ysgrifenedig ac apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol.

Mae rheoliad 34 yn darparu y caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu gan benderfyniad yn rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect, apelio i'r Uchel Lys.

Mae rheoliad 36 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S 2004/3280 (Cy.284)) o ganlyniad i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 37 yn dirymu Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2127 (Cy.214), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/203 (Cy.17)). Mae rheoliad 38 yn gwneud darpariaeth drosiannol.