rheoliad 2(1)
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—
(a) disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu, neu gyfnod arall o roi ar waith, a'r cyfnod gweithredol;
(b) disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a nifer y deunyddiau a ddefnyddir;
(c) amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (gan gynnwys llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) sy'n deillio o weithrediad y prosiect arfaethedig.
2. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyngberthynas rhwng y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o—
(a) bodolaeth y prosiect;
(b) y defnydd o adnoddau naturiol; ac
(c) allyriant llygrwyr, creu niwsans a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd am gydsyniad o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7. Awgrym ynglyn ag unrhyw anawsterau (gan gynnwys diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd) a wynebodd y ceisydd am gydsyniad wrth grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol.
1. Disgrifiad o'r prosiect, sydd wedi'i ffurfio o wybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.
2. Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir y bydd eu hangen er mwyn osgoi, lleihau ac, o bosibl, unioni effeithiau andwyol sylweddol.
3. Y data y mae eu hangen i nodi ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
4. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.
rheoliad 20
1. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion dyfarnu a fydd y prosiect a ganiateir gan y penderfyniad neu'r cydsyniad yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, wneud asesiad o oblygiadau'r prosiect i'r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle.
2. At ddibenion yr asesiad, caiff Gweinidogion Cymru —
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol i roi iddynt unrhyw wybodaeth y maent yn credu bod angen rhesymol amdani; a
(b) os ydynt yn credu ei bod yn angenrheidiol, ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd.
3. Oni fydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr asesiad, wedi'u bodloni na fydd y prosiect a ganiatawyd drwy'r penderfyniad neu'r cydsyniad yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd, ac nad yw rheoliad 16(4) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) yn achos penderfyniad, dirymu'r penderfyniad; a
(b) yn achos cydsyniad, naill ai—
(i) dirymu'r cydsyniad; neu
(ii) gwneud unrhyw addasiadau i'r cydsyniad sy'n ymddangos yn angenrheidiol iddynt er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd,
a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pawb y mae'n ymddangos iddynt fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol o'u penderfyniad (eu “penderfyniad pellach”).
4. Yn ddarostyngedig i baragraff 5, nid yw penderfyniad pellach yn effeithio ar unrhyw waith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â phenderfyniad neu gydsyniad.
5.—(1) Os yw—
(a) prosiect sy'n ddarostyngedig i benderfyniad pellach wedi dechrau; a
(b) yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn angenrheidiol diogelu cyfanrwydd safle Ewropeaidd,
caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith hwnnw, neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol, gyflawni unrhyw waith adfer sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) nodi'r cyfnod y mae'n rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni ynddo
(3) Mae hawlogaeth gan unrhyw berson sy'n gwneud y gwaith adfer hwnnw, wedi iddo gyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8, adennill oddi wrth Weinidogion Cymru iawndal mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo wrth gyflawni'r gwaith hwnnw.
6.—(1) Mae rheoliad 31 yn gymwys i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3.
(2) Mae rheoliad 30 yn gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 5.
7. Os yw person, yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff 3, wedi tynnu gwariant wrth gyflawni gwaith a wnaed yn ddi-fudd gan y penderfyniad pellach, neu os yw wedi dioddef fel arall golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli'n uniongyrchol i'r penderfyniad pellach, bydd hawlogaeth ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8.
8. Rhaid i hawliad am iawndal sy'n daladwy o dan baragraff 5(3) neu 7 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad lle dywedir bod iawndal yn daladwy a rhaid i unrhyw dystiolaeth y mae ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdani ddod gyda'r hawliad hwnnw.
9. Caniateir i unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5(3) a 7 gael ei gyfeirio i'r Tribiwnlys Tiroedd o fewn 6 mlynedd i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad pellach y mae iawndal yn daladwy mewn perthynas ag ef.
10. Ni fydd dim byd yn yr Atodlen hon yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed yn unol â phenderfyniad neu gydsyniad cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.