Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 6 Darpariaethau Terfynol

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004

36.  Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(30) wedi'u diwygio drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 14 o'r Atodlen—

14.—(1) A farmer must not begin or carry out an uncultivated land project or a restructuring project—

(a) in breach of regulation 4 of, or

(b) in breach of regulation 8 of,

the Environmental Impact Assessment (Agriculture ) (Wales) Regulations 2007.

(2) A farmer must not breach a stop notice that has been served on him under regulation 24 of those Regulations.

(3) A farmer must not, without reasonable excuse, fail to comply with any requirement of a remediation notice served on him under regulation 26 of those Regulations.

(4) In this paragraph “uncultivated land project” has the meaning given to it by regulation 2(1) of those Regulations.

Dirymu

37.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a) Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002(31); a

(b) Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007(32).

Darpariaethau trosiannol

38.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer y dull o drin hysbysiadau penodol a gyflwynwyd o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”).

(2) Mae unrhyw hysbysiad stop a gyflwynwyd o dan reoliad 22 o Reoliadau 2002 i'w drin fel petai wedi'i gyflwyno o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 25, 28 a 29 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd mewn cysylltiad â thorri amodau'r hysbysiad.

(3)Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad adfer a gyflwynwyd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2002 i'w drin fel petai wedi'i gyflwyno fel hysbysiad adfer o dan reoliad 26 o'r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 27 i 29 yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerir mewn cysylltiad â thorri amodau'r hysbysiad.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n effeithio ar unrhyw apêl o dan reoliad 24(3) o Reoliadau 2002 a ddygwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2007

rheoliad 5

ATODLEN 1 Trothwyon

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Prosiect ailstrwythuro terfyn 4 cilometr 2 gilometr
Prosiect ailstrwythuro arwynebedd 100 o hectarau 50 o hectarau
Prosiect ailstrwythuro cyfaint 10,000 o fetrau ciwbig 5,000 o fetrau ciwbig

Dehongli'r Atodlen hon

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “prosiect ailstrwythuro arwynebedd” (“area restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag arwynebedd tir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro cyfaint” (“volume restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu, gwaredu neu ailddosbarthu maint o bridd neu ddeunydd arall mewn perthynas â thir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro terfyn” (“boundary restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu neu waredu unrhyw derfyn cae (gan gynnwys unrhyw wal, ffens, clawdd, ffos neu gwrs dwr).

rheoliad 7

ATODLEN 2 Y meini prawf dethol ar gyfer penderfyniad sgrinio

Nodweddion prosiectau

1.  Nodweddion prosiectau, o ystyried yn benodol—

(a) maint y prosiect;

(b) sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;

(c) y defnydd ar adnoddau naturiol;

(ch) y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;

(d) llygredd a niwsans; ac

(dd) y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw penodol i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.

Lleoliad y prosiect

2.  Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i'r canlynol—

(a) y defnydd presennol o'r tir;

(b) digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal; ac

(c) gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, gan roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—

(i) gwlyptiroedd;

(ii) parthau arfordirol;

(iii) ardaloedd mynyddig a fforestydd;

(iv) gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v) ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);

(vi) ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn unrhyw ddeddfwriaeth gan y Cymunedau;

(vii) ardaloedd dwys eu poblogaeth; ac

(viii) tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.

Yr effaith bosibl

3.  Effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw penodol i'r materion canlynol—

(a) hyd a lled yr effaith (ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);

(b) yr effaith ar Wladwriaethau AEE eraill;

(c) graddfa a chymhlethdod yr effaith;

(ch) tebygolrwydd yr effaith; a

(d) hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.

(30)

O.S. 2004/3280. Back [30]

(31)

O.S. 2002/2127 (Cy.214), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/203 (Cy.17).. Back [31]

(32)

O.S. 2007/203 (Cy.17). Back [32]